Brîd o gi yw Ci Sant Bernard. Mae'n un o'r bridiau mwyaf, ac yn medru cyrraedd pwysau o dros 100 km.

Ci Sant Bernard
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganAlpine Spaniel Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sant Bernard
Dau blentyn a Chi Sant Bernard. Ffotograff gan Geoff Charles (1952).

Datblygwyd y brîd yn wreiddiol yn yr ysbyty (hospicio) a sefydlodd Sant Bernard o Menthon ger copa Bwlch Sant Bernard Mawr yn yr Alpau, ar y ffin rhwng y Swistir a'r Eidal. Adeiladwyd yr ysbyty yn 1035, gyda chanoniaid oedd a'r dyletswydd o gynorthwyo teithwyr tros y bwlch. O leiaf o'r 16g, roedd y canoniaid yn magu cŵn mawr i helpu yn y gwaith o achub teithwyr, a datblygodd brîd a ddaeth yn enwog fel Ci Sant Bernard.