Y drosedd o gymryd plentyn dan oed o warchodaeth rhieni neu warcheidwaid y plentyn yw cipio plentyn. Gall plentyn gael ei gipio gan riant, gwarcheidwad, person arall sydd â chysylltiad â'r plentyn, neu gan berson sy'n ddieithr i'r plentyn.

Cipio plentyn
Mathherwgipio, trosedd yn erbyn rhyddid person, trosedd hawlio cymharol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfraith y Deyrnas Unedig golygu

Yn systemau cyfreithiol Cymru a Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, mater troseddol a sifil yw cipio plentyn. Dan Ddeddf Cipio Plentyn 1984, mae'n dramgwydd troseddol yng Nghymru a Lloegr i berson sydd â chysylltiad â phlentyn i gymryd neu i ddanfon y plentyn y tu allan i'r Deyrnas Unedig heb ganiatâd gan berson sydd â chyfrifoldeb dros y plentyn fel rhiant. Mae'r un darpariaethau ar waith yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ôl Deddf Cipio Plentyn 1984 (Yr Alban) a Deddf Cipio Plentyn (Gogledd Iwerddon) 1985.[1]

Manylir ar hawliau rhiant yng Nghymru a Lloegr i gymryd eu plant i ffwrdd o'r rhiant arall yn Neddf Plant 1989. Yn yr Alban ceir darpariaethau tebyg gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995, ac yng Ngogledd Iwerddon gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.[1]

Cipio plentyn ar y llwyfan rhyngwladol golygu

Unwaith i blentyn gael ei gymryd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, caiff cipio gan riant yn aml ei drin fel mater sifil yn unig.[1] Mae'r siawns o gael y plentyn yn ôl yn dibynnu ar arferion a chyfraith y wlad yr aethpwyd â'r plentyn iddi. Gall y Swyddfa Dramor ddarparu cymorth ond ni all y Swyddfa Dramor roi cyngor cyfreithiol neu ymyrryd yn system gyfreithiol gwlad arall.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Child abduction law. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (14 Mawrth 2011). Adalwyd ar 7 Hydref 2012.
  2.  Cipio plentyn ar y llwyfan rhyngwladol. Directgov. Adalwyd ar 7 Hydref 2012.

Dolen allanol golygu