Pensaer, llenor a meddyg o Ffrainc oedd Claude Perrault (25 Medi 1613 - 9 Hydref 1688).[1] Yn enedigol o ddinas Paris, roedd yn frawd i Charles Perrault, awdur y casgliad chwedlau gwerin enwog Contes de ma mère l'Oye.

Claude Perrault
Ganwyd25 Medi 1613 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw9 Hydref 1688 Edit this on Wikidata
o sepsis Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
AddysgMeddyg Meddygaeth Edit this on Wikidata
Galwedigaethbiolegydd, meddyg, anatomydd, pensaer, ysgrifennwr, swolegydd, cyfieithydd, botanegydd, ffisiolegydd, damcaniaethwr celf Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLouvre Colonnade, Arsyllfa Paris Edit this on Wikidata

Cyfieithodd De architectura, llyfr Vitruvius ar bensaernïaeth, o'r Lladin i'r Ffrangeg a chynlluniodd golonâd y Louvre. Bu hefyd yn un o'r rhai, fel ei frawd iau, a gymerodd ran yn y ddadl boeth rhwng pleidwyr y Moderniaid a phleidwyr yr Hynafwyr (Brwydr y Llyfrau neu Brwydr y Moderniaid a'r Hynafwyr) i bennu cwrs llenyddiaeth a chelf Ffrainc yn yr 17g.

Cyfeiriadau golygu

  1. Education in France (yn Saesneg). Cultural Services of the French Embassy. 1962. t. 4.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.