Cyfrifiadur poced neu 'Cynorthwywr Digidol Personol' yw cledrydd (yn Saesneg Personal Digital Assistant neu PDA). Mae cledrydd yn gorchuddio cledr y llaw, ond mae'r gliniadur yn drymach, yn fwy ac yn anhylaw.

Cledrydd
Enghraifft o'r canlynolcategori o gynhyrchion Edit this on Wikidata
Mathtabled cyfrifiadurol, dyfais electronig symudol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cledrydd

Oherwydd eu datblygaid gwreiddiol i'r byd busnes mae cledryddau yn tueddi i ganolbwyntio ar brosesau pwysig i'r swyddfa - e.e. cysylltiadau, digwyddiadur, e-bost - ond wrth i'r cof sydd ynddynt gynyddu, a'r prosesydd gyflymu, maent wedi cynyddu yn eu poblogrwydd a'u hapêl e.e. gallant dynnu lluniau drwy'r camera mewnol, dangos ffilmiau neu chwarae cerddoriaeth.

Mae cledryddau 'pur' o dan fygythiad wrth i dechnoleg gydgyfarfod: mae'r ffônau symudol yn araf droi yn ffônau medrus.