Brenhines yr Ymerodraeth Seleucaidd rhwng 125 CC a 121 CC oedd Cleopatra Thea (tua 164 - 121 CC), cyfenw Euergetis.

Cleopatra Thea
Ganwyd164 CC Edit this on Wikidata
Yr Aifft Edit this on Wikidata
Bu farw121 CC Edit this on Wikidata
o gwenwyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Seleucaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenhines cyflawn Edit this on Wikidata
SwyddSeleucid ruler Edit this on Wikidata
TadPtolemi VI Philometor Edit this on Wikidata
MamCleopatra II of Egypt Edit this on Wikidata
PriodAlexandros Balas, Demetrius II Nicator, Antiochus VII Sidetes Edit this on Wikidata
PlantAntiochus IX Cyzicenus, Antiochus VI Dionysus, Seleucus V Philometor, Antiochus VIII Grypus Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllin y Ptolemïaid Edit this on Wikidata
Am frenhines yr Aifft, cariad Iŵl Cesar a Marcus Antonius, gweler Cleopatra. Am eraill o'r un enw, gweler Cleopatra (gwahaniaethu).

Roedd Clepatra'n ferch i Ptolemi VI Philometor, brenin yr Aifft a'i wraig Cleopatra II. Priododd Alexander Balas tua 150 CC, a chawsant fab, Antiochus VI Dionysus.

Tua 148 CC, ail-briododd a Demetrius II Nicator. Bu iddynt ddau fab, Seleucus V Philometor ac Antiochus VIII Grypus, ac efallai ferch (Laodice?). Pan gymerwyd Demetrius yn garcharor wrth ymladd yn erbyn Parthia, priododd Cleopatra ei frawd, Antiochus VII Sidetes. Cawsant o leiaf un mab, Antiochus IX Cyzicenus. Tua 129 CC, lladdwyd Antiochus yn ymladd yn erbyn y Parthiaid. Erbyn hyn roedd Demetrius wedi cael ei ryddhau, a dychwelodd i hawlio ei orsedd a'i wraig.

Yn ddiweddarach, ceisiodd Demetrius ymosod ar yr Aifft. Ymatebodd brenin yr Aifft trwy gefnogi Alexander Zabinas, a hawliai fod yn fab i Alexander Balas, fel brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd. Gorchfygodd ef Demetrius ger Damascus. Enciliodd Demetrius i Ptolemais Hermiou, ond roedd pyrth y ddinas wedi eu cau yn ei erbyn ar orchymyn Cleopatra. Aeth ar fwrdd llong i ffoi, ond llofruddiwyd ef ar orchymyn Cleopatra.

O 125 CC hyd 121 CC, Cleopatra oedd yn rheoli'r ymerodraeth. Lladdodd fab hynaf Demetrius, Seleucus, pan geisiodd ef hawlio'r orsedd. Gwnaeth ei mab Antiochus VIII Grypus yn gyd-frenin, ond pan ddangosodd ef arwyddion o annibyniaeth, penderfynodd Cleopatra ei lofruddio. Wedi iddo ddychwelyd o hela yn 121 CC cynigiodd ei fam gwpanaid o win iddo. Roedd Antiochus yn amheus, a gorfododd ei fam i yfed y gwin ei hun. Roedd wedi ei wenwyno, a bu Cleopatra farw.