Codex Ambrosianus

Enw a roddir ar gyfres o bump llawysgrif a ysgrifennwyd yn y 6ed a'r 7g gan amryw o lawiau ac mewn sawl gwyddor yw'r Codex Ambrosianus. Mae'r llawygrifau hyn yn cynnwys detholiad o adnodau a phennodau o'r Hen Destament Apocryffaidd (Llyfr Nehemiah) a'r Testament Newydd (yn cynnwys rhannau o'r Efengylau a'r Epistolau), ynghyd â rhai sylwebau diweddarach a adwaenir fel y Skeireinau.

Codex Ambrosianus
Enghraifft o'r canlynolgroup of manuscripts Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dalen o'r Codex Ambrosianus

Testunau golygu

Mae'r Codex Ambrosianus yn cynnwys pum llawysgrif a adwaenir fel Codex Ambrosianus A, Codex Ambrosianus B, Codex Ambrosianus C, Codex Ambrosianus D a Codex Ambrosianus E. Cedwir Codex Ambrosianus A, B ac C yn y Biblioteca Ambrosiana ym Milan, yr Eidal.

Mae Codex Ambrosianus A yn cynnwys rhannau o Lythyrau'r Apostolion a'r Calendar Gothig. Ceir ynddo 204 tudalen, 190 yn ddarllenadwy, 2 yn anarllenadwy a 12 yn wag.

Yn Codex Ambrosianus B ceir rhannau o'r Epistolau ar 156 tudalen, 2 ohonynt yn wag. Ysgrifennwyd y Codex Ambrosianus B.21 yn ysgrifen Syriac.[1] Mae'n cynnwys llyfrau'r Apocrypha, Llyfrau 4 Ezra, Ail Lyfr Baruch, Trydydd a Pedwerydd Lyfr y Macabeaid, a rhan o lyfr Josephus am y Macabeaid.

Dim ond dwy ddalen a geir yn Codex Ambrosianus C sy'n cynnwys darnau o'r Efengyl yn ôl Mathew.

Cyfeiriadau golygu

  1. Antonio Maria Ceriani, Translatio syra pescitto Veteris Testamenti: ex codice Ambrosiano sec. fere VI, photolithographice edita, curante et adnotante (Milan, 1876).