Coedwig law yw coedwig mewn ardaloedd lle y ceir dros tua 1750 mm hyd 2000 mm (68 modfedd hyd 78 modfedd) o law y flwyddyn.

Ardaloedd fforest law drofannol

Ceir dwy ran o dair o'r holl rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion ar y blaned yn y coedwigoedd glaw, a chredir fod cannoedd o filiynau o rywogaethau yn dal heb eu darganfod. Ceir y rhan fwyaf o goedwigoedd glaw y ddaear yn y trofannau, yn enwedig yn nalgylch Afon Amazonas, mewn rhannau o Ganolbarth America megis Nicaragwa, yn Affrica i'r de o'r Sahara yn ymestyn o Camerŵn i Weriniaeth Congo, yn ne-ddwyrain Asia o Myanmar hyd Indonesia a Papua Gini Newydd, ac yng ngogledd Awstralia.

Ceir hefyd coedwigoedd glaw y tu allan i'r trofannau, yn enwedig ger arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau a Canada.

Fforest law Amazonas ger Manaus