Coegylfinir

rhywogaeth o adar
Coegylfinir
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Numenius
Rhywogaeth: N. phaeopus
Enw deuenwol
Numenius phaeopus
(Linnaeus, 1758)
Numenius phaeopus

Mae'r Coegylfinir Numenius phaeopus, yn un o'r rhydyddion yn perthyn i deulu'r Scolopacidae. Mae'n un o'r mwyaf cyffredin o deulu'r Gylfinir, yn nythu ar hyd rhannau helaeth o ogledd Gogledd America, Ewrop ac Asia. Yn Ewrop. mae'n nythu cyn belled i'r de a'r Alban.

Fel rheol mae'r Coegylfinir yn aderyn mudol, yn treulio'r gaeaf yn Affrica, De America,de Asia ac Awstralasia. Mae'n un o'r mwyaf o'r rhydyddion yn Ewrop ac Asia, 37–45 cm o hyd, ychydig yn llai na'r Gylfinir. Mae'n bwydo trwy chwilio yn y mwd am anifeiliaid bychain.

Mae pedwar is-rywogaeth:

  • Numenius phaeopus phaeopus - gogledd Ewrop, gogledd-orllewin Asia
  • Numenius phaeopus variegatus - gogledd-ddwyrain Asia
  • Numenius phaeopus alboaxillaris - canolbarth Asia (prin)
  • Numenius phaeopus hudsonicus - gogledd Gogledd America

Yng Nghymru, mae'r Coegylfinir yn weddol gyffredin pan mae'n mudo tua'r gogledd yn Ebrill-Mai ac wrth ddychwelyd tua'r de rhwng Gorffennaf a dechrau Medi. Ceir ychydig o gofnodion o'r rhywogaeth yn aros yma dros y gaeaf, ac o leiaf un cofnod ohoni'n nythu yma.