Bwlch yn ne Ffrainc, yn ardal Dauphiné Alps ger Grenoble yw'r Col du Galibier (uchder 2645 m). Hon yw'r nawfed ffordd uchaf yn yr Alpau sydd â wyneb, a'r chweched bwlch uchaf. Mae'n aml yn bwynt uchaf rhifynau o'r Tour de France.

Col du Galibier
Mathbwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRoute des Grandes Alpes Edit this on Wikidata
SirSavoie, Hautes-Alpes Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Uwch y môr2,642 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.064°N 6.408°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddAlpau, Arves massif Edit this on Wikidata
Map

Mae'r bwlch yn cysylltu Saint-Michel-de-Maurienne â Briançon ynghyd â'r col du Télégraphe a'r Col du Lautaret, ond mae ar gau yn y gaeaf. Lleolir rhwng massif d'Arvan-Villards a massif des Cerces, gan gymryd ei enw o'r gadwyn eilradd o fynyddoedd o'r enw Galibier.

Cyn 1976, y twnnel oedd yr unig modd o groesi'r mynydd, lleolwyd copa'r bwlch ar uchder o 2556 m. Caewyd y twnnel i gael ei adnewyddu yn 1976 a ni agorwyd hyd 2002. Adeiladwyd ffordd newydd dros y mynydd yn agosach iw chopa ar uchder o 2645 m. Ail-agorwyd y twnnel gyda un lôn wedi ei reoli gan oleuadau traffig.

Yr esgyniad golygu

O'r gogledd, gan gychwyn yn Saint-Michel-de-Maurienne (a gan gynnwys y Col du Télégraphe), mae'r esgyniad yn 34.8 km o hyd, gan godi 2120 m mewn uchder (gyda llethr ar gyfartaledd o 6.1%). Mae'r esgyniad i'r copa ei hun yn cychwyn yn Valloire ac yn 18.1 km o hyd gyda llethr ar gyfartaledd o 6.9%, mae'n codi 1245 medr o'r pwynt yma. Mae'r darn mwyaf serth ar y copa yn 10.1%.

O'r de, mae'r esgyniad yn cychwyn ar Col du Lautaret (uchder 2058 m) ac yn 8.5 km o hyd gyda llethr ar gyfartaledd o 6.9%, mae'n codi 585 medr o'r pwynt yma. Mae'r darn mwyaf serth ar y copa yn 12.1%.

Tour de France golygu

Defnyddiwyd y Col du Galibier yn y Tour de France am y tro cyntaf ym 1911; y reidiwr cyntaf dro sy copa oedd Emile Georget, a oedd, ynghyd â Paul Duboc a Gustave Garrigou, yr unig reidwyr i beidio a cerdded i fyny'r mynydd.[1]

Teithiodd y Tour de France trwy'r twnnel am y tro cyntaf ers iddo ail-agor yn 2011, ar gymal 19 o Modane Valfréjus i L'Alpe d'Huez.

Lleolir cofeb i Henri Desgrange ger mynedfa deheuol i'r twnnel, sef sefydlydd a chyfarwyddwr cyntaf y Tour de France. Cysegrwyd y gofeb pan basiodd y Tour ar 19 Gorffennaf 1949. Pryd bynnag fydd y Tour yn dringo'r Col du Galibier, gosodir torch ar y gofeb. Gwobrwyir y "Souvenir Henri Desgrange" i'r reidiwr cyntaf i groesi copa'r mynydd uchaf ym mhob rhifyn o'r Tour. Yn 2006, enillwyd y wobr o 5000 ewro ar y Col du Galibier gan Michael Rasmussen.

Mae'r Tour de France wedi croesi'r Col de Galibier 31 gwaith ers 1947. Bwriadwyd ei ddefnyddio hefyd ym 1996, ond gadawyd hi allan o'r ras ar y funud olaf oherwydd tywydd drwg. Oherywdd eira ar y Col de l'Iseran a'r Col du Galibier, lleihawyd y cymal 190 km o Val-d'Isère i Sestriere yn yr Eidal i 46 km o Le-Monetier-les-Bains. Enillwyd y cymal gan Bjarne Riis, gan gipio'r crys melyn yn y broses. Deliodd y crys hyd y diwedd ym Mharis.

Croesodd Tour de France 2008 y Col du Galibier ar 23 Gorffennaf yn ystod cymal 17, 210 km, o Embrun i Alpe d'Huez.

Dringodd Tour de France 2011 y Col du Galibier ddwywaith, a gorffennodd cymal ar ei chopa am y tro cyntaf. Cipwyd y ffuddugoliaeth gan Andy Schleck. Dyma oedd y diwedd cymal uchaf erioed yn y Tour de France.[2]

Ymddangosiadau yn y Tour de France (ers 1947) golygu

Blwyddyn Cymal Categori Cychwyn Gorffen Arweinydd ar y copa
2011 19 HC Modane Alpe d'Huez Andy Schleck
2011 18 HC Pinerolo Col du Galibier Thomas Voeckler
2008 17 HC Embrun Alpe d'Huez Stefan Schumacher
2007 9 HC Val-d'Isère Briançon Mauricio Soler
2006 16 HC Le Bourg-d'Oisans La Toussuire Michael Rasmussen
2005 11 HC Courchevel Briançon Alexandre Vinokourov
2003 8 HC Sallanches Alpe d'Huez Stefano Garzelli
2002 16 HC Les Deux Alpes La Plagne Santiago Botero
2000 15 HC Briançon Courchevel Pascal Hervé
1999 9 HC Le Grand-Bornand Sestrières José-Luis Arrieta
1998 15 HC Grenoble Les Deux Alpes Marco Pantani
1993 10 HC Villard-de-Lans Serre-Chevalier Tony Rominger
1992 14 HC Sestrières Alpe d'Huez Franco Chioccioli
1989 17 HC Briançon Alpe d'Huez Gert-Jan Theunisse
1987 21 HC Le Bourg-d'Oisans La Plagne Pedro Muñoz
1986 18 HC Briançon Alpe d'Huez Luis Herrera
1984 18 HC Alpe d'Huez La Plagne Francisco Rodriguez
1980 17 HC Serre-Chevalier Morzine Johan De Muynck
1979 17 HC Les Menuires Alpe d'Huez Lucien Van Impe
1974 11 1 Aix-les-Bains Serre-Chevalier Vicente Lopez-Carril
1973 8 1 Moutiers Les Orres Luis Ocana
1972 14a 1 Briançon Valloire Joop Zoetemelk
1969 10 1 Chamonix Briançon Eddy Merckx
1967 10 1 Divonne-les-Bains Briançon Julio Jiménez
1966 16 1 Le Bourg-d'Oisans Briançon Julio Jiménez
1964 8 1 Thonon-les-Bains Briançon Federico Bahamontes
1959 18 2 Grenoble St-Vincent-d'Aoste Charly Gaul
1957 10 1 Thonon-les-Bains Briançon Marcel Janssens
1955 8 1 Thonon-les-Bains Briançon Charly Gaul
1954 19 1 Briançon Aix-les-Bains Federico Bahamontes
1952 11 1 Le Bourg-d'Oisans Sestrières Fausto Coppi
1948 14 2 Briançon Aix-les-Bains Lucien Teisseire
1947 8 1 Grenoble Briançon Fermo Camellini

Cyfeiriadau golygu

  1. Les Woodland (2003). The Yellow Jersey companion to the Tour de France. Random House, tud. 151. ISBN 0-2240631-8-9
  2.  Tour de France riders to climb Col du Galibier twice as organisers unveil race route. dailymail.co.uk (2010-10-20). Adalwyd ar 2010-12-28.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: