Coleg Bryn Mawr

coleg yn Pennsylvania

Coleg Americanaidd i ferched ydy Coleg Bryn Mawr (Saesneg: Bryn Mawr College); caiff ei ddisgrifio fel "coleg y celfyddydau rhyddfrydol". Mae wedi'i leoli ym Mryn Mawr, yn nhalaith Pennsylvania oddeutu 10 milltir i'r gorllewin o Pennsylvania yn Unol Daleithiau America.

Coleg Bryn Mawr
Mathprifysgol, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw, women's college, mynwent Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBryn Mawr, Dolgellau Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1885 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSeven Sisters Edit this on Wikidata
SirBryn Mawr Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau40.02639°N 75.31361°W Edit this on Wikidata
Cod post19010 Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganM. Carey Thomas Edit this on Wikidata

Cymuned Bryn Mawr golygu

Yn ôl cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae i'r ardal hon arwynebedd o 0.6 milltir sgwar,[1] ac roedd yno boblogaeth o 21,485 gyda chyfartaledd incwm y bobl hyn yn $110,956.[2][3] sy'n ei gwneud yn un o ardaloedd mwyaf cefnog yr UDA.

Sefydlu'r Coleg golygu

Daw enw'r coleg a'r dref o'r Gymraeg. Cyflwynodd William Penn y tir i Rowland Ellis yn y 1680au; enw fferm Rowland Ellis yn Nolgellau oedd "Bryn Mawr". Mae Rowland Ellis, ei deulu a'r cyfnod yn cael ei ddisgrifio gan Marion Eames yn ei nofel hanesyddol Y Stafell Ddirgel. Arferai'r coleg i arddel cysylltiad cry gyda chrefydd y sefydlwyr hyn, sef Crynwriaeth, ond erbyn 1893 roedd wedi'i sefydlu'n goleg amlgrefydd.

Coleg Bryn Mawr oedd y coleg cyntaf o'i bath i gynnig gradd uwch (gan gynnwys doethuriaeth) i ferched yn yr Unol Daleithiau.[4] Bu'r mathemategydd Almaenig Emmy Noether yma'n fyfyriwr ac yn ddarlithydd, ac yma y claddwyd ei gweddillion.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Bryn Mawr CDP, Pennsylvania (map)". Cyrchwyd 2007-04-18.[dolen marw]
  2. "Ithan Elementary School". Radnor Township School District. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-20. Cyrchwyd 2007-05-19.
  3. "Coopertown Elementary". Haverford Township School District. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-31. Cyrchwyd 2007-05-19.
  4. "A Brief History of Bryn Mawr College". brynmawr.edu. Cyrchwyd 2011-06-18.

Dolenni allanol golygu