Coleg Somerville, Rhydychen

Coleg Somerville, Prifysgol Rhydychen
Arwyddair Donec rursus impleat orbem
Sefydlwyd 1879
Cyn enw Neuadd Somerville
Enwyd ar ôl Mary Somerville
Lleoliad Woodstock Road, Rhydychen
Chwaer-Goleg Coleg Girton, Caergrawnt
Prifathrawes Alice Prochaska
Is‑raddedigion 400[1]
Graddedigion 184[1]
Gwefan www.some.ox.ac.uk

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen yw Coleg Somerville (Saesneg: Somerville College). Bu'n un o'r colegau i ferched cyntaf i gael eu sefydlu yno.

Hanes golygu

Sefydlwyd Somerville (dan yr enw Neuadd Somerivlle) yn 1879, gyda'r nod o ddarparu rhyw fath o addysg uwch i ferched, gan na chaent fod yn aelodau o Brifysgol Rhydychen ar y pryd. Cymer y Coleg ei enw oddi wrth Mary Somerville, un o wyddonwyr benywiadd enwoca'r 18g. Benthycodd y Coleg arfbais ei theulu hefyd, a'r arwyddair 'Donec rursus impleat orbem'. Yn wahanol i Neuadd Lady Margaret a sefydlwyd yn yr un flwyddyn, mynnodd sefydlwyr y coleg na ddylai ei aelodau orfod pasio unrhyw brofion ar sail crefydd i gael ymuno â'r coleg.

Drwy ei hanes, bu'r Coleg ym mlaen y frwydr dros addysg i ferched. Yn 1894, Somerville oedd y cyntaf o'r 5 Neuadd i Ferched i fabwysiadu'r term Coleg, a Somerville oedd y cyntaf hefyd i adeiladu llyfrgell. Yn 1903 sefydlwyd y 'Mary Somerville Research Fellowship', y cynta i gynnig cyfle ymchwil i ferched.

Cydnabuwyd y Coleg yn aelod llawn o'r Brifysgol yn 1959. Yn 1992 cymerwyd y penderfyniad i ganiatau i ddynion fynychu'r coleg, gyda'r cyntaf yn cyrraedd yn 1994. Y Brifathrawes bresennol yw Alice Prochaska.

Cynfyfyrwyr golygu

Mae cynfyfyrwyr Somerville wedi gwneud cyfraniad mawr i statws merched mewn sawl maes. Ymysg ei gynfyfyrwyr enwocaf mae Margaret Thatcher a ddaeth yn brif weinidog benwyaidd cyntaf y Deyrnas Unedig yn 1979. I Somerville hefyd yr aeth Indira Gandhi a ddaliodd y swydd gymharol yn India.

Ymysg y gwyddonwyr a fynychodd y coleg mae Dorothy Hodgkin a enillodd Wobr Nobel am ei gwaith ar strwythur insulin, penicillin, a vitamin B12.

Mae Somerville hefyd yn unigryw o blith colegau Rhydychen a Chaergrawnt fel yr unig goleg a ellir ei ddisgrifrio o gael 'Ysgol o Nofelwyr'. Ymysg y llenorion a fynychodd y Coleg mae Dorothy L. Sayers, Iris Murdoch, Winifred Holtby a Vera Brittain

Rhestr cynfyfyrwyr golygu

Prifathrawon golygu

  • Madeleine Shaw-Lefevre (1879-1889)
  • Agnes Catherine Maitland (1889-1906)
  • Emily Penrose (1906-1926)
  • Margery Fry (1926-1930)
  • Helen Darbishire (1930-1945)
  • Janet Vaughan (1945-1967)
  • Barbra Craig (1967-1980)
  • Daphne Park (1980-1989)
  • Catherine Pestell (1989-1991)
  • Catherine Hughes (1991-1996)
  • Fiona Caldicott (1996-2010)
  • Alice Prochaska (2010-2017)
  • Janet Royall (2017- )

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Niferoedd myfyrwyr, Rhagfyr 2016: Prifysgol Rhydychen; adalwyd 25 Mai 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.