Haint a achosir gan y bacteriwm Vibrio cholerae yw Colera neu Y geri marwol. Fel arfer, trosglwyddir yr haint trwy yfed dŵr amhur, er y gall gael ei drosglwyddo gan fwyd hefyd.

Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Ardaloedd lle ceir colera

Mae'r bacteriwm Vibrio cholerae yn cynhyrchu tocsin sy'n effeithio ar yr epitheliwm ar wyneb mewnol y coluddion. Mae hyn yn arwain at ddeiaria difrifol, sy'n arwain at farwolaeth trwy golli dŵr o'r corff. Gellir atal yr afiechyd i raddau helaeth trwy sicrhau cyflenwad o ddŵr glan.

Roedd yr haint yn wreiddiol yn India, a lledodd ar hyd llwybrau masnach i Rwsia ac yna i orllewin Ewrop. Cafwyd nifer o ymosodiadau o'r haint yn Ewrop yn ynstod y 19g, gyda miloedd yn marw. Er enghraifft yn haint 1832, by farw 20,000 ym Mharis a 6,536 yn Llundain. Effeithiwyd ar y ddwy ddinas yma eto yn 1849, gyda 14,137 yn marw yn Llundain; bu farw 5,308 yn Lerpwl yr un flwyddyn. Lledodd i'r Unol Daleithiau yr un flwyddyn, ac ymhlith y rhai a fu farw roedd yr Arlywydd, James K. Polk. Bu farw 10,738 yn Llundain yn 1853-4 a 3,500 (5.5% o'r boblogaeth) yn Chicago yn 1854. Y tro diwethaf i nifer fawr o bobl farw o'r haint yn Ewrop oedd 1892, pan fu farw 8,600 yn Hamburg. Mae'r haint yn parhau i fod broblem ddifrifol mewn rhannau o'r trydydd byd.

Pobl enwog fu farw o'r colera golygu