Collen (sant)

sant

Sant Celtaidd cynnar oedd Collen (fl. diwedd y 6g). Mae'n bosibl fod rhai traddodiadau yn ei gymysgu â sant arall o'r enw Colan/Collen.

Collen
Sant Collen. Ffenestr gwydr lliw yn eglwys plwyf Llangollen.
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Blodeuodd600 Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiadau golygu

Yn ôl y testun Cymraeg Canol Diweddar (neu Cymraeg Modern Cynnar) Buchedd Collen (copïwyd yn 1536), roedd Collen yn fab i Gwynog, un o ddisgynyddion Caradog Freichfras, ac Ethinen (neu Ethni) ferch Matholwch 'Arglwydd Iwerddon'. Ond yn ôl traddodiad arall roedd yn fab i Betrwn o linach Rhydderch Hael.[1]

Cysylltir Collen â Llangollen yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Dywedir iddo sefydlu eglwys yn Ninbych hefyd. Ceir Castell Collen yn enw ar gaer Rufeinig fechan ger Llandrindod; dywedir fod cerrig y capel wedi cael eu defnyddio yn ddiweddarach i godi Capel Maelog gerllaw. Bu eglwys Rhiwabon yn gysegredig i Gollen ar un adeg cyn cael ei hailgysegru i'r Forwyn Fair. Roedd 'Trallwng Gollen' yn hen enw ar Y Trallwng.[2]

Ceir Sant Colan yng Nghernyw ac enwir cymuned Langolen yn ardal Penn-ar-Bed, Llydaw, ar ei ôl yn ogystal.[2] Mae Buchedd Collen yn dweud y bu ganddo gell yn Glastonbury.[1]

Ceir chwedl llên gwerin sy'n sôn am ei ymweliad â llys Gwyn ap Nudd (brenin y Tylwyth Teg). Anfonodd Gwyn negesydd i'r sant yn ei gorchymyn i ddod i'w lys yn Y Berwyn. Yno mae Collen yn gweld y castell tegach erioed ac yn cael ei wahodd i mewn gan y porthor. Ond mae'r sant yn chwistrellu dŵr sanctaidd ar y brenin a'i lys ac mae popeth yn diflannu.[3]

Gwylmabsant: 21 Mai.

Llyfryddiaeth golygu

Buchedd Collen yn, T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg. Y gyfrol gyntaf: Detholiad o lawysgrifau 1488-1609 (Caerdydd, 1954)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Buchedd Collen yn Rhyddiaith Gymraeg. Y gyfrol gyntaf: Detholiad o lawysgrifau 1488-1609
  2. 2.0 2.1 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  3. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (1930).