Elusen Prydeinig yw Comic Relief. Fe'i sefydlwyd yn 1985 gan ysgrifennydd sgript comig Richard Curtis mewn ymateb i'r newyn yn Ethiopia. Cychwynodd gwaith yr elusen gydag adroddiad yn fyw o wersyll ffoaduriaid yn Sudan ar BBC 1 ym 1985. Syniad gweithiwr elusennol Jane Tewson oedd Comic relief a'r 'diwrnod trwyn coch'. Mae'r elusen yn codi llawer o arian drwy ddarlledu rhaglenni doniol sy'n cynnwys nifer o pobl enwog yn creu sbort, mewn ymgais i godi arian ar gyfer elusennau Gwledydd Prydain ac yn bennaf - Affrica.

Logo Comic Relief

Ar y 13eg o Fawrth, 2009, torrwyd pob record blaenorol am y swm o arian a godwyd ar y noson, wrth i'r cyfanswm gyrraedd dros £57 miliwn.[1] Disgwylir i'r swm hwn gynyddu wrth i'r bobl a gynhaliodd weithgareddau codi arian ddanfon eu harian i'r elusen. Ymysg y gweithgareddau codi arian, aeth criw o enwogion i ddringo mynydd uchaf Affrica, Mynydd Kilimanjaro. Ymysg yr enwogion roedd y troellwyr disgiau Radio 1 Chris Moyles a Fearne Cotton, y cyflwynwyr Ben Shepherd a Denise Van Outen a'r cantorion Gary Barlow (o'r band Take That), Cheryl Cole a Kimberley Walsh (o'r band Girls Aloud), Ronan Keating (o'r band Boyzone) ac Alesha Dixon.[2] Cododd yr un weithgaredd hon £1.5 miliwn tuag at yr achos.

Cyfeiriadau golygu

  1. Comic Relief reaches record £57m Newyddion y BBC. Adalwyd 14-03-2009
  2. Star climbers ready for challenge Gwefan Newyddion y BBC. Adalwyd 14-03-2009
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddigrifwch neu gomedi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.