Comisiwn Ewropeaidd

Adran weithredol yr Undeb Ewropeaidd yw'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae José Manuel Durão Barroso yn Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd ers 2004. Mae'r Comisiwn yn awgrymu a gweithredu deddfwriaeth ac mae'n hollol annibynnol. Mae wedi ei leoli ym Mrwsel.

Comisiwn Ewropeaidd

Cyfrifoldebau'r Comisiwn golygu

  • Mae'r Comisiwn yn awgrymu cyfreithiau newydd a yrrir i'r Senedd Ewropeaidd a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd.
  • Am ei fod yn adran weithredol mae'r Comisiwn yn arolygu gweithredu cyfraith Ewropeaidd, y gyllideb a'r rhaglenni y mae'r Senedd a'r Cyngor wedi cytuno arnynt.
  • Mae'n gyfrifol am y cytundebau ac mae'n cydweithio gyda Llys Cyfiawnder Ewrop wrth archwilio i sicrhau bod pawb yn cadw cyfraith yr UE.
  • Mae'n cynrhychioli'r UE ar lefel rhyngwladol ac mae'n gwneud cytundebau gyda gwledydd eraill y tu allan i'r Undeb, yn bennaf ar gyfer masnach a chydweithrediad rhyngwladol.

Apwyntiadau a strwythur golygu

Ar hyn o bryd mae 27 o gomisiynwyr, un o bob aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae portffolio polisi gan bob comisiynydd ac maent i gyd yn atebol i'r Senedd yn unig.

Mae Cyngor yr Undeb Ewropeaidd yn dewis Llywydd y Comisiwn ac mae'n rhaid i Senedd Ewrop ei gymeradwyo. Mae'r aelod-wladwriaethau yn enwebu'r comisiynwyr eraill ac wedyn mae'n rhaid fod y Senedd yn cymeradwyo'r Comisiwn.

Gall y Senedd orfodi ymddiswyddiad y Comisiwn cyfan trwy bleidlais o ddiffyg hyder.

Y Comisiynwyr presennol yw:

Enw Portffolio
José Manuel Barroso Llywydd
Margot Wallström Is-Lywydd; Cysylltiadau Sefydliadol a Strategaeth Cyfathrebu
Günter Verheugen Is-Lywydd; Menter a Diwydiant
Jacques Barrot Is-Lywydd; Trafnidiaeth
Siim Kallas Is-Lywydd; Materion Gweinyddol, Archwilio a Gwrth-dwyll
Franco Frattini Is-Lywydd; Cyfiawnder, Rhyddid a Diogelwch
Viviane Reding Cymdeithas Wybodaeth a Chyfryngau
Stavros Dimas Amgylchedd
Joaquín Almunia Materion Economaidd ac Ariannol
Danuta Hübner Polisi Rhanbarthol
Joe Borg Pysgodfeydd a Materion Morol
Dalia Grybauskaitė Rhaglennu Ariannol a'r Gyllideb
Janez Potočnik Gwyddoniaeth ac Ymchwil
Ján Figeľ Addysg, Hyfforddiant, Diwylliant ac Ieuenctid
Markos Kyprianou Iechyd
Olli Rehn Ehangu
Louis Michel Datblygu a Chymorth Dyngarol
László Kovács Trethiant ac Undeb Tollau
Neelie Kroes Cystadleuaeth
Mariann Fischer Boel Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig
Benita Ferrero-Waldner Cysylltiadau Allanol a Pholisi Cymdogaeth Ewropeaidd
Charlie McCreevy Marchnad Fewnol a Gwasanaethau
Vladimír Špidla Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chyfle Cyfartal
Peter Mandelson Masnach
Andris Piebalgs Ynni
Meglena Kuneva Diogelu'r Defnyddiwr
Leonard Orban Amlieithrwydd

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu