Corfflu Hyfforddi Corfforol Brenhinol y Fyddin

Corfflu yn y Fyddin Brydeinig yw Corfflu Hyfforddi Corfforol Brenhinol y Fyddin (Saesneg: Royal Army Physical Training Corps; RAPTC).

Corfflu Hyfforddi Corfforol Brenhinol y Fyddin
Enghraifft o'r canlynoluned filwrol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1860 Edit this on Wikidata

"Be Fit" yw'r ymdeithgan a fabwysiadwyd gan y corfflu ym 1944, gyda geiriau o Land and Sea Tales gan Rudyard Kipling.[1]

Hanes golygu

Sefydlwyd Staff Gymnastaidd y Fyddin ym 1860 gyda 12 o swyddogion digomisiwn dan uwchgapten. Gelwir y 12 swyddog gwreiddiol yn y Deuddeg Apostol, ac roeddent mor llwyddiannus gorchmynwyd campfa ar gyfer pob garsiwn erbyn 1862.[1] Newidodd ei enw i Staff Hyfforddi Corfforol y Fyddin ym 1918, ac yna Corfflu Hyfforddi Corfforol y Fyddin ym 1940.[2] Ailenwyd yn Gorfflu Hyfforddi Corfforol Brenhinol y Fyddin yn 2010.

Gwisg golygu

Du gyda pheipiad a ffesin ysgarlad yw lliwiau gwisg y corfflu.[2] Mae bathodyn cap y corfflu yn dangos dau gleddyf wed'iu croesi gyda choron uwchben.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006), t. 172.
  2. 2.0 2.1 Chant, Christopher. The Handbook of British Regiments (Llundain, Routledge, 1988), t. 298.

Dolen allanol golygu