Corwen

tref a chymuned yn Sir Ddinbych

Tref fach a chymuned yn Sir Ddinbych, yw Corwen. Saif yn Nyffryn Edeirnion ar lôn yr A5 rhwng Betws-y-Coed (23 milltir) a Llangollen (11 milltir). I'r gogledd mae Rhuthun (13 milltir) ac i'r de y mae'r Bala (12 milltir).

Corwen
Mathcymuned, tref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaCynwyd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.98°N 3.379°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000147 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ075435 Edit this on Wikidata
Cod postLL21 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auSimon Baynes (Ceidwadwyr)
Map
Cerflun o Owain Glyndŵr gan Colin Spofforth yng Nghorwen (2007)

Mae Afon Dyfrdwy yn llifo heibio i'r dref. Yn yr Oesoedd Canol roedd Corwen yn rhan o gwmwd Dinmael. Mae gan y dref gysylltiadau ag Owain Glyndŵr; cymysg fu'r ymateb i'r cerflun cyntaf o'r arwr a godwyd ar y sgwâr, ond mae'r Tywysog ar ei farch (gweler y llun) wedi'i dderbyn gyda breichiau agored. Yn flynyddol ers 2009 ceir gorymdaith drwy'r dref a dathliadau dros gyfnod o ddeuddydd i ddathlu Diwrnod Glyn Dŵr (Medi 16). Ceir hefyd hen domen neu fwnt sef Castell Glyndŵr tua kilometr i'r dwyrain, i gyfeiriad y Waun.

Dyma ble'r oedd Pafiliwn Corwen.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]

Pobl o Gorwen golygu

 
Dau saer o Gorwen yn 1885, gyda'u hoffer trin pren. Ffotograff gan John Thomas (ffotograffydd)

Eisteddfodau golygu

Atyniadau yn y cylch golygu

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Corwen (pob oed) (2,325)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Corwen) (1,084)
  
47.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Corwen) (1505)
  
64.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Corwen) (348)
  
34%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.