Llong fordaith a berchenogwyd gan y cwmni Costa Cruises oedd yr MS Costa Concordia a adeiladwyd yn yr Eidal. Ar 13 Ionawr 2012 fe ddrylliwyd y llong ar riff ym Môr Tirrenia ger Isola del Giglio. Bu farw o leiaf 30 o'r 3,229 o deithwyr a 1,023 o griw, ac mae 2 dal ar goll.[1]

Costa Concordia

Arestiwyd capten y llong, Francesco Schettino, gan heddlu'r Eidal ar 14 Ionawr, a chyhuddwyd o ddynladdiad, o achosi’r ddamwain, a gadael y llong tra bod teithwyr a’r criw yn dal ar ei bwrdd. Ymddangosodd Schettino ac wyth o ddiffynyddion eraill gerbron llys ym mis Hydref 2012 i glywed y dystiolaeth yn ei erbyn.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Costa Concordia: Five more bodies found. BBC (22 Mawrth 2012). Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2012.
  2.  Eidal: Cyn gapten y Costa Concordia o flaen llys (15 Hydref 2012). Adalwyd ar 30 Hydref 2012.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato