Coup d'état Tsile (1973)

(Ailgyfeiriad o Coup d'état Chile, 1973)

Ar 11 Medi 1973 cafodd Salvador Allende, Arlywydd Tsile, ei ddymchwel mewn coup d'état a drefnwyd gan luoedd milwrol Tsile gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd jwnta filwrol dan y Cadfridog Augusto Pinochet gan ddod â llywodraeth yr Unidad Popular, a etholwyd yn ddemocrataidd, i ben.

Coup d'état Tsile
Enghraifft o'r canlynolcoup d'état Edit this on Wikidata
Dyddiad11 Medi 1973 Edit this on Wikidata
Rhan ohistory of Chile Edit this on Wikidata
LleoliadTsile Edit this on Wikidata
GwladwriaethTsile Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymyrraeth yr Unol Daleithiau golygu

Roedd llywodraeth yr Unol Daleithiau yn ystyried y posiblrwydd y byddai Allende yn ennill etholiad 1970 yn drychineb am ei bod yn awyddus i amddiffyn buddianau economaidd a strategol yr Unol Daleithiau ac atal ymlediad comiwnyddiaeth a sosialaeth yn America Ladin. Cyfnod y Rhyfel Oer oedd hyn. Ym Medi 1970, dywedodd yr Arlywydd Nixon wrth y CIA nad oedd llywodraeth gan Allende yn dderbyniol ac awdurdododd $10,000,000 (swm eithaf sylweddol yn 1970) i atal Allende rag ennill grym neu i'w ddymchwel pe bai'n llwyddo i ddod yn arlywydd. Galwyd cynlluniau'r CIA i atal Allende yn "Trac I" a "Trac II"; roedd Trac I yn ceisio atal Allende trwy "ddichell seneddol", tra bod Trac II yn fod i berswadio swyddogion clo ym myddin Tsile i weithredu coup pe bai Allende yn ennill.[1]

 
Gwrthdystiad o blaid Allende

Ar ôl etholiad 1970, ceisiodd cynnlun Trac I annog yr arlywydd ar fin gorffen ei dymor, Eduardo Frei Montalva, i berswadio ei blaid, y (PDC) i bleidleisio dros Alessandri yn y Gyngres. Byddai Alessandri wedyn yn ymddeol ar unwaith a galw am etholiad newydd. Buasai Eduardo Frei yn rhydd i sefyll eto wedyn yn ôl cyfansoddiad Tsile, gyda siawns da efallai i guro Allende. Ond dewisodd Siambr Dirpwryon Tsile Allende yn Arlywydd, ar yr amod ei fod yn parchu'r Cyfansoddiad.

Yn ôl rhai sylwebyddion a haneswyr, ni fu rhaid gweithredu Trac II, am fod lluoedd arfog Tsile eisoes yn symud i'r cyfeiriad yna.[2] Mae eraill yn dadlau fod y CIA wedi chwarae rhan flaenllaw yng nghynllwyn Pinochet ac eraill, neu o leiaf wedi ei hybu'n sylweddol.

Mae'r Unol Daleithiau wedi cydnabod chwarae rhan yng nglweidyddiaeth Tsile cyn y coup, ond mae ei rhan yn y coup ei hun yn ddadleuol. Rhybuddwyd y CIA gan eu cysylltiadau yn Tsile ddeuddydd o flaen llaw, ond y llinell swyddogol yw na chwareodd y CIA ran uniongyrchol ynddo.[3]

Rhoddwyd cymorth ariannol gan lywodraeth UDA i gefnogi streic gyrwyr lorïau preifat, a ychwanegodd i'r anhrefn economaidd cyn y coup,[4]

Ar ôl i Pinochet gipio grym, dywedodd Henry Kissinger wrth yr Arlywydd Richard Nixon "na wnaeth yr Unol Daleithiau hyn," ond "mi ddaru ni helpu." (gan gyfeirio at y coup ei hun).[5] Yn ychwanegol, mae dogfennau a ryddhawyd dan lywodraeth Bill Clinton yn dangos bod llywodraeth UDA a'r CIA wedi ceisio cael gwared o Allende yn 1970 cyn iddo ennill grym ("Prosiect FUBELT"). Erys nifer o ddogfennau perthnasol heb eu cyhoeddi.

Cyfeiriadau golygu

  1. Hinchey Report Archifwyd 2009-10-20 yn y Peiriant Wayback. Y CIA yn Tsile. 18 Medi 2000. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2006.
  2. "Church Report. Covert Action in Chile 1963-1973" Archifwyd 2009-09-11 yn y Peiriant Wayback., 18 Rhagfyr 1975.
  3. CIA Reveals Covert Acts In Chile Archifwyd 2004-08-07 yn y Peiriant Wayback., CBS News, 19 Medi 2000.
  4. Jonathan Franklin, Files show Chilean blood on US hands, The Guardian, 11 Hydref 1999.
  5. The Kissinger Telcons: Kissinger Telcons on Chile, National Security Archive Electronic Briefing Book No. 123, gol. Peter Kornbluh, postiwyd 26 Mai 2004. Ceir y deialog ar TELCON: 16 Medi 1973, 11:50 a.m. Kissinger Talking to Nixon.