Crannog

ynys amddiffynol a godwyd cynhanes

Mae crannog yn fath o lyndy a godid ar ynys, artiffisial fel rheol ond naturiol weithiau, mewn llynnoedd yn yr Alban, Iwerddon, ayyb. Daw'r enw o'r gair Gwyddeleg crannóg, o crann ‘pren’.

crannog
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Crannog Oakbank ar lan Loch Tay.

Prif fantais crannog oedd ei bod yn hawdd i'w hamddiffyn. Gellir cyrraedd at y crannog ar hyd cob neu dros bont o bren. Credir fod yr esiampl hynaf, Eilean Domhnuill yn Loch Olabhat ar ynys Gogledd Uist, yn dyddio o 3200-2800 CC.[1][2] Mae'r rhan fwyaf ohonynt i dyddio o Oes yr Haearn a'r Canol Oesoedd Cynnar.

Yn Iwerddon a'r Alban y ceir y rhan fwyaf ohonynt, ond mae un neu ddwy o esiamplau yng Nghymru, yn Llyn Syfaddan, Llangors, Powys ac yn 'Crofft-y-Bwla', Trefynwy. Roedd teulu brenhinol Brycheiniog o darddiad Gwyddelig, ac efallai fod hyn yn egluro presenoldeb crannog, sy'n dyddio o ddiwedd y 9g, yma. Ymddengys y cranogau Gwyddelig cyntaf yng nghanol yr Oes Efydd, a hynny yn Ballinderry (1200–600 CC).[3] Ceir 1,200 ohonynt yn Iwerddon.

Crofft-y-Bwla, Trefynwy golygu

Yn 2012, tra'n tyllu mewn ystâd o dai o'r enw 'Parc Glyn Dŵr' yng nghanol Trefynwy, darganfu Martin Tuck o Gymdeithas Archaeoleg Trefynwy olion crannog - tŷ enfawr, hir; mae'r ystâd o dai hwn ar dir fferm 'Crofft-y-Bwla'. Yn 2015 datgelwyd fod yr olion mor hen â'r Oes Efydd ac y bu yno waith adeiladu cychod mewn llyn enfawr, sydd wedi diflannu ers canrifoedd. Darganfuwyd ffosydd twfn, metr o led, yn sianeli hirion dros bridd a losgwyd ac a ddyddiwyd i Oes Newydd y Cerrig gan system dyddio radiocarbon: 5,000 o flynyddoedd yn ôl (2,917 CC). Mae hyn yn golygu fod y crannog hwn yn Nhrefynwy yn 2,000 o flynyddoedd yn hŷn nag unrhyw anhediad-llyn drwy Lloegr a Chymru ac yn 300 mlynedd cyn adeiladu pyramidiau'r Aifft.

Cafwyd hyd hefyd i lawer o olion preswylio o Oes y Cerrig a'r cyfnod pan y bu'r Rhufeiniaid yng Nghymru.[4]

Must Farm, Dwyrain Anglia golygu

Yn Ionawr 2016 datgelodd archaeolegwyr o Brifysgol Caergrawnt eu bod wedi darganfod olion cranogau mewn cyflwr arbennig o dda yn Nwyrain Anglia mewn man a elwir yn 'Must Farm Quarry' yn y gwlybdiroedd a elwir yn y Ffendiroedd (Saesneg: fenland neu fens), sef math o gors. Mae'r olion hyn wedi'u dyddio i 3,000 o flynyddoedd yn ôl h.y. i'r Oes Efydd (1200-800 CC), ac yn cynnwys cartref, a fyddai wedi cynnwys sawl teulu, ar stilts pren uwch ben y dŵr.[5]

Llosgwyd yr adeilad gwreiddiol yn ulw gan dân mawr a achosodd i'r adeilad ddisgyn i'r llyn, neu afon, a chadwyd y pren dros y blynyddoedd yn y mwd, heb iddynt bydru. Cafwyd hyd i decstiliau a wnaed o ffibr planhigion, cwpanau bychan, prin, bowleni a jariau cyfan gyda bwyd ynddynt. Cafwyd hefyd mwclis o wydr, sy'n dangos fod gan y gymuned Geltaidd hon sgiliau soffistigedig, uwch nag a geir fel arfer yn y cyfnod hwn. Yn ôl yr archaeolegwyr, mae'r crannog hwn mewn cyflwr gwell nag unrhyw un arall ym Mhrydain.

Lleolir y maes archaeolegol ar dir sydd a'i arwynebedd yn 1,100 metr sgwâr, ac mae'r darganfyddiadau tua dwy fetr yn is na lefel modern y ddaear. Oddeutu'r cartref crwn ceir olion palis (neu fur) a oedd unwaith yn ei warchod.[6]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Armit, Ian (1996). The Archaeology of Skye and the Western Isles. Edinburgh University Press.
  2. Armit, Ian (2003). "The Drowners: permanence and transience in the Hebridean Neolithic". In Armit, I.; Murphy, E.; Simpson, D. (gol.). Neolithic Settlement in Ireland and Western Britain. Oxford: Oxbow.
  3. National handbook of underwater archaeology gan Carol Ruppé, Jan Barstadch
  4. www.walesonline.co.uk; adalwyd 2015
  5. Gwefan Prifysgol Caergrawnt; adalwyd Ionawr 2016
  6. mustfarm.com; adalwyd 12 Ionawr 2016