Cross Fell (2,930' / 893m) yw mynydd uchaf bryniau'r Pennines yng ngogledd Lloegr. Yn ogystal â bod y pwynt uchaf yn y Pennines, dyma'r copa uchaf yn Lloegr tu allan i Ardal y Llynnoedd. Llwyfandir uchel creigiog yw'r copa, sy'n rhan o gefnen 20 km o hyd sy'n rhedeg o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain, ac sy'n cynnwys hefyd Little Dun Fell (842 m) a Great Dun Fell (849 m). Gyda'i gilydd mae'r copaon hyn yn ffurfio rhes o glogwynni sy'n codi'n syrth uchlaw Dyffryn Eden i'r de-orllewin ond yn disgyn yn llai syrth ar eu llethrau gogledd-ddwyreiniol i gyfeiriad cymoedd Tyne a Tees.

Cross Fell
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolNorth Pennines Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr893 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.7028°N 2.4872°W Edit this on Wikidata
Cod OSNY6871834336 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd651 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaHelvellyn Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddPennines Edit this on Wikidata
Map

Ar ddiwrnod braf ceir golygfeydd gwych o'r cysgodfa ar y copa dros Ddyffryn Eden i fynyddoedd Ardal y Llynnoedd. O lethrau gogleddol Cross Fell ceir golygfeydd da i gyfeiriad Moryd Solway ac ucheldir De'r Alban.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.