Mae'r Cusan pumplyg yn elfen o ddefodau Wica sy'n cynnwys cusanu pum darn y corff. Mae pob un cusan yn cyd-fynd â bendith, sef:

Bendithion ar dy draed, sydd wedi dod â thi i'r ffyrdd hyn.
Bendithion ar dy liniau, a fydd yn penlinio ar yr Allor Sanctaidd.
Bendithion ar dy wain / bidyn, ac hebddo na fyddwn yn bodoli.
Bendithion ar dy fronnau / frest, wedi ffurfio mewn prydferthwch / cryfder.
Bendithion ar dy wefusau, a fydd yn yngan yr Enwau Sanctaidd.[1]

Perfformir y cusan pumplyg fel arfer yn ystod defodau a seremonïau Wica, megis priodasau.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dyna ffurf y fendith a ddefnyddiwyd gan fwyafrif o gwfennau Gardneraidd ac Alecsandraidd. Gweler Stewart a Janet Farrar, A Witches' Bible: The Complete Witches' Handbook (Llundain: Robert Hale, arg. newydd, 1997), a Llyfr y Cysgodion Gardneraidd at www.sacred-texts.com

Dolenni allanol golygu