Cwffio 7 Gorffennaf 1963

Ffrae gorfforol yn Saigon, De Fietnam, oedd cwffio 7 Gorffennaf, 1963. Ymosododd heddlu cudd Ngô Đình Nhu—brawd yr Arlywydd Ngô Đình Diệm—ar garfan o newyddiadurwyr o'r Unol Daleithiau oedd yn adrodd ar brotestiadau Bwdhaidd naw mlynedd i'r diwrnod i Diệm ddod i rym. Cafodd Peter Arnett o'r Associated Press (AP) ei fwrw ar y trwyn, a daeth y ffrae i ben yn sydyn unwaith i David Halberstam o The New York Times, oedd yn llawer talach na dynion Nhu, wrth-ymosod ac achosi'r heddlu cudd i encilio. Cafodd Arnett a'i gydweithiwr, y newyddiadurwr a ffotograffydd Malcolm Browne, eu cyfarch yn hwyrach yn eu swyddfa gan yr heddlu a'u cwestiynu dan ddrwgdybiaeth o ymosod ar swyddogion yr heddlu.

Cwffio 7 Gorffennaf 1963
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad Edit this on Wikidata
Dyddiad7 Gorffennaf 1963 Edit this on Wikidata
Rhan oYr argyfwng Bwdhaidd Edit this on Wikidata
GwladwriaethDe Fietnam Edit this on Wikidata
RhanbarthDinas Ho Chi Minh Edit this on Wikidata

Wedi iddynt gael eu rhyddhau, aeth y newyddiadurwyr i lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Saigon i gwyno am eu triniaeth gan swyddogion Diệm ac i ofyn am ddiogelwch gan y lywodraeth Americanaidd. Cafodd eu hapelion, gan gynnwys apêl uniongyrchol i'r Tŷ Gwyn, eu hanwybyddu. Trwy ymdrechion y Llysgennad Americanaidd Frederick Nolting, cafodd y cyhuddiadau o ymosodiad yn erbyn y newyddiadurwyr eu diddymu. Ymatebodd Bwdhyddion Fietnam i'r helynt trwy honni yr oedd dynion Diệm yn bwriadu bradlofruddio mynachod Bwdhaidd, tra honnodd Madame Ngô Đình Nhu yr oedd llywodraeth yr Unol Daleithiau yn ceisio dymchwel ei brawd-yng-nghyfraith.

Tynodd Browne ffotograffau o wyneb gwaedlyd Arnett, a gyhoeddwyd mewn papurau newydd ar draws y byd. Denodd hyn rhagor o sylw negyddol i ymddygiad llywodraeth Diệm yn ystod yr argyfwng Bwdhaidd.

Ffynonellau golygu

  • Hammer, Ellen J. (1987). A Death in November: America in Vietnam, 1963. Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd: E. P. Dutton. ISBN 0-525-24210-4.
  • Jacobs, Seth (2006). Cold War Mandarin: Ngo Dinh Diem and the Origins of America's War in Vietnam, 1950–1963. Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield. ISBN 0-7425-4447-8.
  • Jones, Howard (2003). Death of a Generation: how the assassinations of Diem and JFK prolonged the Vietnam War. Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 0-19-505286-2.
  • Langguth, A. J. (2000). Our Vietnam: the war, 1954–1975. Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd: Simon & Schuster. ISBN 0-684-81202-9.
  • Prochnau, William (1995). Once Upon a Distant War. Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd: Times Books. ISBN 0-8129-2633-1.