Cwm Tawe

un o gymoedd De Cymru

Mae Cwm Tawe (Saesneg:Swansea Valley), yn un o gymoedd De Cymru, sy'n cynnwys rhannau uchaf Afon Tawe i'r fyny cwrs yr afon o Abertawe, Cymru. Erbyn heddiw, rhennir yr ardal rhwng Dinas a Sir Abertawe, Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Phowys.

Cwm Tawe
Mathdyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot, Powys, Abertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7593°N 3.7898°W Edit this on Wikidata
Map

Trefi a phentrefi nodedig golygu

Mae trefi a phentrefi nodedig yn yr ardal yn cynnwys Clydach, Pontardawe, Ystradgynlais, Ystalyfera ac Abercraf.

Yn y ddogfen Towards a Valleys Strategy (Medi 2005), nododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fod gwahaniaeth amlwg rhwng rhai o gymunedau mwyaf anghysbell Ystalyfera ac ar hyd dyffrynoedd Twrch ac Amman â chymunedau deheuol cymharol lewyrchus Pontardawe, Alltwen, Rhos, a Threbannws. Gwasanaethir yr ardal gan yr heol A4067 Abertawe-Aberhonddu, ond nid oes gwasanaethau trên yno ers i linell Rheilffordd y Midland rhwng Abertawe a Brynaman (trwy Ystalyfera) gau ym 1952.

Atyniadau golygu

Lleolir Ogofâu Dan yr Ogof yn rhan uchaf Cwm Tawe a dywedir mai dyma'r cyfres fwyaf o ogofâu yng Ngorllewin Ewrop. I'r de o Abercraf, arferai'r ardal fod yn ddiwydiannol iawn gyda phyllau glo a'r diwydiant haearn. O ganlyniad, mae llawer o dreftadaeth diwydiannol yn bodoli yno o hyd; adeiladwyd Camlas Abertawe ar hyd y cwm ar ddiwedd y 18g er mwyn gwasanaethu'r diwydiannau trwm hyn. Ym 1878, symudodd y gantores opera Adelina Patti i Gastell Craig-y-nos.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.