Cwpan Rygbi'r Byd

Cwpan Rygbi'r Byd yw prif gystadleuaeth rhyngwladol rygbi'r undeb. Cynhelir twrnament bob pedair blynedd ers y bencampwriaeth gyntaf yn 1987 yn Awstralia a Seland Newydd. Trefnir y gystadleuaeth gan gorff llywodraethol y gamp yn rhyngwladol, World Rugby.

Cwpan Rygbi'r Byd
Cwpan Webb Ellis
Chwaraeon Rygbi'r Undeb
Sefydlwyd 1987
Motto A World in Union
Nifer o Dimau 20 (16 rhwng 1987 a 1995)
Pencampwyr presennol Seland Newydd
Gwefan Swyddogol http://www.rugbyworldcup.com

Y pencampwyr presennol yw Seland Newydd enillodd y gystadleuaeth yn 2015 yn erbyn Awstralia. Mae un tîm wedi codi'r tlws 3 gwaith - Seland Newydd, a mae dau tîm wedi codi'r tlws ddwywaith; Awstralia a De Affrica.

Mae'r enillwyr yn derbyn Cwpan Webb Ellis sy'n dwyn enw'r disgybl o Ysgol Rugby lwyddodd, yn ôl y chwedl, i ddyfeisio'r gamp wrth "bigo'r bêl i fyny a rhedeg gydag o".

Hanes golygu

Roedd rygbi'r undeb yn rhan o Gemau Olympaidd yr Haf ym Mharis ym Mharis 1900, Llundain 1908, Antwerp 1920 ac ym Mharis 1924. Ffrainc enillodd y fedal aur cyntaf, yna Awstralia gyda'r ddwy gystadleuaethn rygbi olaf yn y Gemau Olympaidd yn cael eu hennill gan Unol Daleithiau America, ond ni chafodd rygbi'r undeb ei gynnwys yn y gemau ar ôl 1924[1][2]

Cafodd Cwpan Rygbi'r Byd ei grybwyll ar sawl achlysur yn mynd yn ôl at y 1950au, ond gyda'r gamp yn parhau i fod yn gêm amatur roedd y rhan fwayf o Undebau'r International Rugby Football Board (IRFB) yn erbyn y syniad[3][4]. Ym 1985, roedd Awstralia, Seland Newydd a Ffrainc o blaid cynnal Cwpan Rygbi'r Byd, ac er nad oeddent yn cael cystadlu oherwydd sancsiynau yn erbyn system apartheid y wlad, roedd De Affrica hefyd o blaid.

Golygai hynny fod y bleidlais yn gyfartal 8-8 ond, wedi i aelod Lloegr acyna aelod Cymru newid eu meddyliau, cafwyd cytundeb i drefnu Cwpan y Byd am y tro cyntaf ym 1987[4]

Pencampwriaethau golygu

Blwyddyn Lleoliad Rownd Derfynol Gêm 3ydd/4ydd Nifer o dimau
Enillydd Sgôr Ail Trydydd Sgôr Pedwerydd
1987   Awstralia a
  Seland Newydd
 
Seland Newydd
29-9  
Ffrainc
 
Cymru
22–21  
Awstralia
16
1991   Lloegr,
  Ffrainc,
  Iwerddon
  Yr Alban a
  Cymru
 
Awstralia
12-6  
Lloegr
 
Seland Newydd
13–6  
Yr Alban
16
1995   De Affrica  
De Affrica
15–12
(way)
 
Seland Newydd
 
Ffrainc
19–9  
Lloegr
16
1999   Cymru  
Awstralia
35–12  
Ffrainc
 
De Affrica
22–18  
Seland Newydd
20
2003   Awstralia  
Lloegr
20–17
(way)
 
Awstralia
 
Seland Newydd
40–13  
Ffrainc
20
2007   Ffrainc  
De Affrica
15–6  
Lloegr
 
Yr Ariannin
34–10  
Ffrainc
20
2011   Seland Newydd  
Seland Newydd
8–7  
Ffrainc
 
Awstralia
21–18  
Cymru
20
2015   Lloegr  
Seland Newydd
34–17  
Awstralia
 
De Affrica
24–13  
Yr Ariannin
20
2019   Japan
2023   Ffrainc 20

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rugby in the Olympics: History". World Rugby. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-27. Cyrchwyd 2015-06-27.
  2. Richards, Huw. "Rugby and the Olympics". ESPN.
  3. "History of the World Cup". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-05-08. Cyrchwyd 2015-06-27. Unknown parameter |published= ignored (help)CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  4. 4.0 4.1 "Rugby World Cup". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-22. Cyrchwyd 2015-06-27. Unknown parameter |published= ignored (help)