Cylchgrawn seiclo wythnosol Prydeinig ydy Cycling Weekly. Cyhoeddir hi gan IPC Media ac mae hi'n ymdrin â rasio ar y ffordd yn bennaf.

Cycling Weekly
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu24 Ionawr 1891 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.cyclingweekly.co.uk/, http://cyclingweekly.co.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes golygu

Cyhoeddwyd Cycling Weekly gyntaf o dan yr enw byrrach, Cycling, ar 24 Ionawr 1891. Trodd yr enw i Cycling and Moting yn yr 19g pan oedd gyrru ceir - "moting" - yn edrych y debygol o gymryd lle seiclo. Disgynodd y gwerthiant o dan olygyddiaeth H.H. (Harry) England, a gymerodd be gysidrwyd fel y safbwynt traddodiadol tuag at seiclo, gan yr oedd yn gwrthwyneb ail-gyflwyno rasus yn dechrau mewn tyrfa ar y ffyrdd, fel gynigwyd gan y British League of Racing Cyclists. Arweiniodd hyn at ymddangosiad cylchgrawn wythnosol cystadleuol The Bicycle yn yr 1950au yn ogystal â chylchgrawn misol a enwyd yn gyntaf yn Coureur cyn ei ail-enwi i Sporting Cyclist. Cafodd y ddau eu cyfuno gyda Cycling yn y diwedd.

Wrth chwilio am ffyrdd o gynyddu'r gwerthiant yn yr 1950au, cyflwynodd Cycling dudalennau wedi eu neilltuo ar gyfer moped a newidiodd enw'r cylchgrawn i Cycling & Mopeds. Cyflymodd y newid hyn y disgyniant yn y gwerthiant hyd i'r moped cael ei ddisgyn o'r tudalennau ac agorodd y cylchgrawn ei llygaid at ffurfiau eraill o rasio beics ar y ffordd ac ar y trac, cyclo-cross a theithiau seiclo. Digwyddodd hyn wrth i'r golygydd newydd ar y pryd, Alan Gayfer, fynnu. Ymysg y newyddiadurwyr a gyflogwyd yn ystod y cyfnod hwn gan Gayfer, mae Phil Liggett, sylwebwr teledu erbyn hyn a'r awdur, Les Woodland.

Mae'r cylchgrawn wedi newid dwylo sawl gwaith. Cyhoeddwyd hi'n gyntaf gan y Dangerfield Printing Company (1891-1894), yna Temple Press (1895-1964), Go Magazine (1964-1967) a Longacre Press (1967-1970) cyn iddi gael ei chyhoeddi gan ei pherchenog presenno, IPC Magazines (IPC Media erbyn hyn) ers 1970.

Y cyfraniad hiraf-oesol a wnaeth y cylchgrawn tuag at seiclo oedd cychwyn cystadleuaeth British Best All-Rounder (BBAR) ar gyfer treialon amser yn ar 4 Ebrill 1930, gan sefydlu pa seiclwr a gysidrwyd gan y cylchgrawn i fod y gorau yn erbyn y cloc gan weithio allan cyfartaledd cyflymder y reidwyr dros bellteroedd o 50 milltir, 100 milltir a thros 12 awr. Cynigodd wobr i'r tîm buddugol bob blwyddyn ar ffurf tarian.[1]

Yn 1932 cyflwynodd Cycling y Golden Book of Cycling yn ogystal. Mae pob tudalen yn anrhydeddu arwr seiclo. Y cyntaf oedd Frank Southall, a enillodd gystadleuaeth BBAR y flwyddyn honno, ac fe arwyddodd y llyfr o flaen 7,000 o seiclwyr a fynychod y seremoni wobrwyo BBAR yn y Royal Albert Hall, Llundain.[1] Mae'r llyfr yma wedi disgyn allan o ffasiwn ymn y blynyddoedd diweddar.

Y Cylchgrawn Cyfoes golygu

Gadawodd Alan Gayfer Cycling i weithio dros asiantaeth newyddion United Press ar yr ochr arall i Fleet Street, Llundain, lle'r oedd swyddfeydd Cycling ar y pryd. Yno, gallai adrodd ar ei ddiddordeb arall, Paffio. Bu farw o drawiad i'r galon tra'n seiclo yng Nghanada ar ôl iddo ymddeol. Golynwyd Gayfer gan Ken Evans, arweiniodd ei ddiddordeb ef mewn rasio treialon amser pellter byr, at gyflwyniad cystadleuaeth y Campagnolo Trophy ar gyfer rasus dros 25 milltir (40 km), yn gyfochrog i'r British Best All-Rounder. Parhaodd hwn ddwy dymor yn unig cyn cafwyd wared arni gan na chysidrwyd hi yn werth yr ymdrech na'r gost.[1] Ymddiswyddodd Evans er mwyn mynd i weithio dros gwmni cyfanwerthu darnau beic Ron Kitching, a cymerodd Martin Ayres ei le. Golynwyd ef yn ei dro gan Andrew Sutcliffe, a fu'n olygwr cylchgrawn Cycle Trader gynt.

O dan arweiniad Sutcliffe, cymerodd y cylchgrawn fwy o gynnwys darluniadol ymlaen, lleihawyd yr adrodd ar seiclo domestig yn ogystal, yn arbenig pan nad oedd y seiclo yn ymwneud â rasio gan ganolbwyntio yn hytrach ar gystadlu ar y cyfandir. Gadawodd Sutcliffe Cycling i ffurfio cwmni Cabal Communications, a redwyd gan cyn-withwyr o IPC. Cyflwynodd cwmni Cabal gylchgrawn Procycling, mewn cystadleuaeth gyda chylchgrawn misol IPC, Cycle Sport. Golygydd cyntaf y cylchgrawn hwn oedd William Fotheringham, a gyflogwyd gynt gan IPC.

Olynydd Sutcliffe oedd Robert Garbutt, sef y golygydd presennol. Mae aelodau staff o nôd yn cynnwys Sid Saltmarsh - yr is-olygydd o dan Alan Gayfer - a weithiodd dros y News Chronicle a'r BBC gynt; ef oedd yn adrodd y Tour de France pan fu farw'r seiclwr Seisnig, Tom Simpson yn ystod y ras yn 1967. Mae'r cyfrannwyr diweddar wedi cynnwys Tony Bell, Michael Hutchinson a Dave Lloyd.

Y cyfrannwr hiraf i'r cylchgrawn oedd Johnny Helms, bu ei gartwnau yn ymddangos yn y cylchgrawn yn reolaidd ers 6 Chwefror 1946.

Ffynonellau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Alpaca to Skinsuit, Bernard Thompson, Geerings of Ashford

Dolenni allanol golygu