Cyfeiriadedd rhywiol a gwasanaeth milwrol

Mae gan luoedd milwrol y byd amrywiaeth o agweddau tuag at hoywon, lesbiaid a deurywiolion. Mae rhai lluoedd milwrol Gorllewinol wedi diddymu polisïau sy'n gwahardd aelodau o leiafrifoedd rhywiol; o'r 25 gwlad sy'n cyfrannu'n filwrol yn NATO, caniateir mwy nag 20 i hoywon, lesbiaid a deurywiolion gwasanaethu; o aelodau arhosol Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, mae dau (y Deyrnas Unedig a Ffrainc) yn gwneud hynny. Nid yw'r tri arall yn gyffredinol yn dilyn yr agwedd hon: mae Tsieina yn gwahardd hoywon a lesbiaid yn llwyr, mae Rwsia yn gwahardd hoywon a lesbiaid yn ystod heddwch ond yn caniatáu rhai dynion hoyw i wasanaethu yn ystod amser rhyfel (gweler isod), ac mae'r Unol Daleithiau yn caniatáu i hoywon a lesbiaid wasanaethu, ond dim ond os ydynt yn cadw eu cyfeiriadedd rhywiol yn gyfrinachol.

300px      Gwledydd nad ŷnt yn gwahardd pobl hoyw-agored o wasanaethu yn y lluoedd arfog, gan gynnwys gwledydd lle mae cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon.     Gwledydd gyda gwaharddiad ar gyfunrywiolion yn y lluoedd milwrol.     Dim byddin sefydlog

Mae polisïau ac agweddau tuag at hoywon a lesbiaid yn y lluoedd milwrol yn amrywio'n eang yn rhyngwladol. Caniateir nifer o wledydd i bobl hoyw-agored gwasanaethu ac wedi rhoi iddynt yr un hawliau a breintiau sydd gan eu cymheiriaid heterorywiol. Nid yw nifer o wledydd yn gwahardd neu gefnogi aelodau hoyw a lesbiaidd i wasanaethu, a pharheir grŵp bach i wahardd personél cyfunrywiol yn llwyr.

Tra bo cyfunrywioldeb yn y lluoedd milwrol wedi bod yn bwnc gwleidyddol yn yr Unol Daleithiau, nid yw hyn yn y mater mewn nifer o wledydd. Yn gyffredinol, mae rhywioldeb yn y diwylliannau yma yn cael ei ystyried yn agwedd fwy bersonol o hunaniaeth unigolyn nag y ystyrir hi yn yr Unol Daleithiau.

Gwledydd sy'n gwahardd cyfunrywiolion agored o wasanaethu yn y lluoedd milwrol golygu

Gwledydd gyda pholisïau eraill golygu

  • Yn Rwsia, caniateir rhai a honnir i gael "problemau hunaniaeth rywiol" yn ystod amser rhyfel yn unig. Caniateir "cyfunrywiolion sydd wedi ymaddasu'n dda" i wasanaethu mewn amser heddwch.
  • Yn Nhwrci, mae'n rhaid i bob dinesydd gwrywol heterorywiol iach gwasanaethu yn y lluoedd milwrol am gyfnodau sy'n amrywio o dair wythnos i bymtheg mis, sy'n dibynnu ar ei addysg a lleoliad ei waith (mae gan gyfunrywiolion yr hawl i gael eu hesgusodi, os dymunant).[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) United Nations High Commissioner for Refugees (UNHCR), Directorate for Movements of Persons, Migration and Consular Affairs - Asylum and Migration Division (Gorffennaf 2001). Turkey/Military service ( PDF). UNHCR. Adalwyd ar 7 Hydref, 2007.

Cysylltiadau allanol golygu