Cyfernod adfer

mesur a ddefnyddir i nodweddu gwrthdrawiadau anelastig

Cyfernod adfer gwrthrych (Saesneg:Coefficient of restitution) neu Cyfernod yr adferiad (COR), a ddynodir hefyd gan (e), yw cymhareb y cyflymder cymharol terfynol i gyflymder cymharol cychwynnol rhwng dau wrthrych ar ôl iddynt wrthdaro. Dyma yw'r gwerth ffracsiynol sy'n cynrychioli'r gymhareb o fuaneddau cyn ac ar ôl gwrthdrawiad. Mae gwrthrych gyda chyfernod adfer = 1 yn gwrthdrawio'n elastig, tra bod gwrthrych efo cyfernod adfer < 1 yn gwrthdaro'n anelastig. Mae gwrthrych efo cyfernod adfer = 0 yn stopio mewn gwrthdrawiad heb adlamu o gwbl.

Cyfernod adfer
Enghraifft o'r canlynolCyfernod Edit this on Wikidata
Mathnifer (diddimensiwn) Edit this on Wikidata

Hafaliad golygu

Dychmygwch gwrthdrawiad un dimensiwn. Labelwyd y cyflymder i'r cyfeiriad mympwyol yn posotif ac i'r cyfeiriad cyferbyniol yn negyddol.

Rhoddir y cyfernod adfer gan:-

 

Ar gyfer dau wrthrych sy'n gwrthdaro

  yw'r buanedd terfynol sgalar y gwrthrych cyntaf ar ôl y gwrthdrawiad
  yw'r buanedd terfynol sgalar yr ail wrthrych ar ôl y gwrthdrawiad
  yw'r buanedd dechreuol sgalar y gwrthrych cyntaf cyn y gwrthdrawiad
  yw'r buanedd dechreuol sgalar yr ail wrthrych cyn y gwrthdrawiad

Er nad yw'r hafaliad yn cyfeirio at fas, mae'n bwysig cofio bod yr hafaliad yma yng nghlwm efo mas gan fod y buaneddau terfynol yn dibynnu ar y masau.

  Eginyn erthygl sydd uchod am fathemateg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato