Ffurf o ad-drefnu ffiniau etholaethau er mwyn creu mantais etholiadol yw cyffindwyllo neu gerimandro. Enwyd y gair "gerimandro" (wedi'i addasu o'r Saesneg gerrymander) ar ôl Elbridge Gerry, Llywodraethwr Massachusetts,[1] ac mae'n gyfansoddair o'i enw a'r gair "salamander" (salamandr), a ddefnyddiwyd i ddisgrifio golwg dosbarth etholiadol troellog a luniwyd yn neddfwrfa Massachusetts yn 1812 – a gafodd ei arwyddo i mewn i'r gyfraith yn anfodlon gan Gerry – gan ddemocratiaid Jeffersonaidd, er mwyn anfanteisio'u gwrthwynebwyr etholiadol yn yr etholiad cynghresol oedd i ddod.[2] Defnyddir gerimandr fel enw i ddisgrifio'r ddaearyddiaeth etholiadol o ganlyniad i gyffindwyllo.

Ymddangosodd "The Gerry-Mander" yn gyntaf yn y map-gartŵn hwn yn y Boston Gazette, 26 Mawrth 1812.
Ail ddosbarth cyngresol Arizona.

Gall gyffindwyllo gael ei ddefnyddio i fanteisio neu anfanteisio etholwyr neilltuol, megis aelodau grŵp hiliol, ieithyddol, crefyddol neu ddosbarthol, fel arfer er lles deiliaid llywodraethol neu blaid benodol. Er fod pob system etholiadol sy'n defnyddio dosbarthau lluosol fel sylfaen am benderfynu cynrychiolaeth yn tueddol i gyffindwyllo i ryw raddau, mae llywodraethau sy'n defnyddio systemau etholiadol un-enillydd yn fwyaf archolladwy. Mae cyffindwyllo yn effeithiol yn enwedig mewn systemau etholiadol anghyfrannol sydd yn tueddu tuag at lai o bleidiau, megis cyntaf i'r felin.

Mewn rhai achosion, gall ffiniau dosbarthol gydag amcan clir cael eu defnyddio am nodau cymdeithasol positif (o leiaf o safbwyntiau llai pleidiol). Yn achos tiriogaethau brodorion Arizona, cafodd ei ystyried yn anaddas i lwythau'r Hopi a Navajo cael eu cynrychioli gan yr yn aelod o'r oherwydd y gwrthdaro hanesyddol a fu rhwng y llwythau hyn. Gan fod tiriogaeth y Hopi wedi'i hamgylchynu yn gyfangwbl gan diriogaeth y Navajo, galwodd hyn am luniad dosbarthol anghyffredin sydd â llain gul iawn, nifer o gannoedd o filltiroedd, ar hyd afon sy'n cysylltu dau ranbarth. Mewn achos arall, mae dosbarth cyngresol yng Nghaliffornia yn ymestyn dros llain arfordirol gul am nifer o gannoedd o filltiroedd, ac felly'n sicrhau bydd cymuned o ddiddordeb gyffredin yn cael ei chynrychioli yn lle'r ardaloedd yn cael eu dominyddu gan achosion mewndirol yn hytrach nag arfordirol. Mae'r rhain yn eglurhaol o ffactorio mewn cymunedau sydd o ddiddordeb cyffredin wrth lunio ffiniau dosbarthau.

Mae gan y mwyafrif o ddemocratiaethau'r byd systemau etholiadol cyfrannol rhannol lle cynrychiolir nifer o bleidiau gwleidyddol yn gyfrannol yn y seneddau cenedlaethol, mewn cyfran â chyfanswm pleidleisiau y pleidiau mewn etholiadau rhanbarthol neu genedlaethol. Yn y rhain, mwy neu lai, bydd cyffindwyllo mewn systemau cynrychiolaeth gyfrannol yn cael ychydig iawn o effaith.

Ymhlith democratiaethau Gorllewinol, nid yw gwladwriaethau megis Israel a'r Iseldiroedd yn dueddol i gyffindwyllo yn y llywodraeth genedlaethol, gan eu bod yn defnyddio systemau etholiadol gyda dim ond un ddosbarth etholiadol (cenedlaethol). Mae gwledydd eraill, megis y Deyrnas Unedig a Chanada, yn ceisio atal cyffindwyllo trwy roi'r cyfrifoldeb o lunio ffiniau etholaethau i sefydliadau amhleidiol megis Comisiwn Ffiniau y Deyrnas Unedig. Mae cyffindwyllo fwyaf cyffredin mewn gwledydd fel yr Unol Daleithiau lle mae gwleidyddion gwladol etholedig yn gyfrifol am lunio dosbarthau, gyda phrin eithriadau.

Ni ddylid cymysgu cyffindwyllo â chamddosraniad lle gall nifer yr etholwyr cymwys am bob cynrychiolydd etholedig amrywio'n eang, a gall hefyd gael ei ddefnyddio i rag-benderfynu canlyniad cyflawn etholiad. Er hynny, mae'r ôl-ddodiad ~mander (o gerimandro) wedi cael ei gymhwyso at gamddosraniadau penodol megis y "Playmander" yn Ne Awstralia a'r "Bjelkemander" yn Queensland. Weithiau defnyddir ill ddau cyffindwyllo a chamddosraniad mewn cyfuniad.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Ynganodd Gerry ei enw fel /ˈgɛri/ (gyda G caled).
  2. (Saesneg) American Treasures of the Library of Congress – The Gerrymander.