Cyffur gwrthiselder

Meddyginiaeth seiciatrig a ddefnyddir i liniaru anhwylderau tymer yw cyffur gwrthiselder neu wrthiselydd. Fe'u defnyddir i drin nifer o gyflyrau gan gynnwys iselder cymedrol i ddifrifol, pryder difrifol a phyliau o banig, anhwylder gorfodaeth obsesiynol, poen cronig, anhwylderau bwyta, ac anhwylder straen ar ôl trawma.[1]

Capsiwlau fluoxetine (Prozac)

Fel arfer, cychwynnir triniaeth â TCA neu SSRI. Mae'n cymryd rhyw 10 i 14 diwrnod i'r cyffuriau cael effaith, a rhwng chwech ac wyth wythnos iddynt weithio'n llawn.[1]

Mecanwaith eu heffaith golygu

Mae cyffuriau gwrthiselder yn newid lefel niwrodrawsyrwyr yn yr ymennydd, sef cemegau sy'n trosglwyddo signalau o un gell yn yr ymennydd i'r llall. Yn ystod iselder nid yw rhai niwrodrawsyrwyr yn gweithio'n iawn, ac mae cyffuriau gwrthiselder yn cynyddu lefel y niwrodrawsyrwyr actif.[1]

Mathau golygu

Mae yna tri tri phrif fath o gyffur gwrthiselder, ond hefyd rhai gwrthiselyddion nad ydynt yn disgyn i'r tri categori hynny.[1]

Atalyddion aildderbyn serotonin dethol (SSRI) golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gwrthiselyddion trichylchol (TCA) a chyffuriau cysylltiedig golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Atalyddion ocsidas monoamin (MAOI) golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Sgîl-effeithiau golygu

Gall sgîl-effeithiau cyffuriau gwrthiselder gynnwys teimlo'n gysglyd, golwg aneglur, cyfog, a chwydu, ond fel arfer bydd rhain yn diflannu wrth i'r claf sy'n ei gymryd ddod i arfer â'r cyffur.[1]

Yn aml, rhaid cymryd cyffuriau gwrthiselder am gyfnod hir, ac mae'n bwysig wrth roi'r gorau iddynt i'w wneud yn raddol i atal sgîl-effeithiau.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5  Cyffuriau gwrthiselder: Diffiniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 20 Tachwedd, 2009.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: