Cyffylog

rhywogaeth o adar
Cyffylog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Scolopax
Rhywogaeth: S. rusticola
Enw deuenwol
Scolopax rusticola
Linnaeus, 1758
Scolopax rusticola rusticola

Aelod o deulu'r Scolopacidae (rhydyddion) yw'r Cyffylog (Scolopax rusticola). Fe'i ceir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop ac Asia.

Mae'r aderyn hyd at 38 cm o hyd a hyd at 65 cm ar draws yr adenydd, gyda phig hir. Mae yn fwy na'r Gïach Cyffredin, sy'n bur debyg o ran golwg. Gan fod ei lygaid wedi eu gosod ar ochr y pen, gall weld pethau y tu ôl iddo yn ogystal ac o'i flaen. Mae'n cuddio mewn coedwigoedd yn ystod y dydd, ac yn dod allan i fwydo yn y gwyll.

Yng Nghymru, ceir niferoedd sylweddol yn gaeafu, a nifer llawer llai yn nythu.