Cyfanswm y bobl a laddwyd mewn digwyddiad penodol yw cyfrif cyrff. Defnyddir y term hwn gan amlaf mewn cyd-destun milwrol, hynny yw nifer y gelyn a laddwyd mewn brwydr neu ymosodiad.

Rhyfel Fietnam golygu

Mabwysiadodd lluoedd arfog yr Unol Daleithiau strategaeth athreuliol yn Rhyfel Fietnam oedd yn dibynnu ar gyrchoedd chwilio a dinistrio yn erbyn y Vietcong, oedd yn cynnal gwrthryfel yn Ne Fietnam yn erbyn lluoedd yr UD a llywodraeth y De. Gan nad oedd yr UD yn gallu mesur eu buddugoliaeth yn nhermau ennill tir, rhoddwyd pwyslais ar gyfrifau cyrff i geisio dangos yr oeddent yn ennill y rhyfel. Er i'r Americanwyr lladd nifer o luoedd y Vietcong a'u cynghreiriaid o Fyddin Pobl Fietnam (lluoedd arfog y Gogledd), ni chafodd hyn effaith ar eu gallu i ymladd. Lladdwyd 220,000 ohonynt rhwng 1965 a 1967, ond bu 200,000 o ddynion y flwyddyn yn cyrraedd yr oed consgripsiwn yng Ngogledd Fietnam, ac yr oedd y Vietcong yn recriwtio mwy a mwy o bobl o gefn gwlad y De.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Hess (2009), t. 90.

Ffynhonnell golygu

  • Hess, G. R. Vietnam: Explaining America's Lost War (Rhydychen, Blackwell, 2009).
  Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.