Cyfrifiadau yn Ffrainc

Cafodd cyfrifiadau yn Ffrainc eu cynnal ers 1772, ond dim ond cyfrif y nifer o pobl a oedd yn byw ym mhob aelwyd oeddent fel arfer, ond weithiau cynhwyswyd enw'r pen-teulu. Ers 1836, cymerwyd cyfrifiad yn Ffrainc pob pum mlynedd, sy'n cynnwys enw a chyfenw pob person sy'n byw yn yr aelwyd ynghyd â manylion eraill megis eu dyddiad a'u lleoliad geni (neu eu oedran), cenedligrwydd a'u galwedigaeth. Mae dau eithriad i'r rheol pum mlynedd, sef cyfrifiad 1871 a gymerwyd yn 1872, a chyfrifiad 1916 na gymerwyd oherwydd digwyddiad y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae gan rhai cymunedau gyfrifiadau cynharach ar gyfer 1817.[1]

Nid yw cyfrifiadau Ffrainc mor ddefnyddiol ar gyfer hel achau a rhai Prydain er enghraifft, gan nad oes indecs ar gyfer yr unigolion. Mae'n rhaid gwybod union gyfeiriad yr unigolyn yr ydych yn chwilio amdanynt, neu edrych drwy filoedd o gofnodion er mwyn eu canfod ar hap.

Erbyn hyn, caiff y cyfrifiad yn Ffrainc ei drefnu gan yr Institut National de la Statistique et des Études Économiques.

1831–1891 golygu

Manylion personol a roddwyd yn y Listes nominatives de la population rhwng 1831 a 1891
  1831 1836 1841 1846 1851 1856 1861 1866 1872 1876 1881 1886 1891
Cyfenw Ymddangosodd yr wybodaeth hyn ym mhob cyfrified ers 1831
Enwau cyntaf
Galwedigaeth
Oedran [2] ie   ie ie ie ie ie ie ie ie ie  
Cyfeiriad ie       ie ie ie ie ie ie ie ie ie
Sefyllfa
bersonol
(priod, gweddw...)
ie ie ie ie ie ie ie ie ie ie [3] [3] [3]
Cenedligrwydd         ie       ie ie   ie ie
Eitemau eraill [4]   [5]   [6]       [7] [7]      

1896–1975 golygu

Manylion personol a roddwyd yn y Listes nominatives de la population rhwng 1896 ac 1975
  1896 1901 1906 1911 1921 1926 1931 1936 1946 1954 1962 1968 1975
Cyfenw Ymddangosodd yr wybodaeth hyn ym mhob cyfrified ers 1831
Enwau cyntaf
Galwedigaeth
Blwyddyn
geni
[8] [8] ie ie ie ie ie ie ie ie ie [9] [9]
Cyferiad Ymddangosodd yr wybodaeth hyn ym mhob cyfrified ers 1851
Safle yn
yr aelwyd
Ymddangosodd yr wybodaeth hyn ym mhob cyfrified ers 1881
Cenedligrwydd Ymddangosodd yr wybodaeth hyn ym mhob cyfrified ers 1886
Eitemau eraill   [10] [10] [10] [10] [10] [10] [10] [10]   [11] [11] [11]

Caiff tablau'r cyfrifiadau eu rhyddhau wedi 75 mlynedd, yn hytrach na 100 mlynedd fel yw'r arfer ym Mhrydain.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Genealogy in France. About.
  2. Cyfrifiad 1831: roedd oedran yn absennol. Yn ei le roedd blwyddyn geni, ac ailymddangosodd hyn yn 1906.
  3. 3.0 3.1 3.2 Cyfrifiadau 1881, 1886 a 1891 : cafodd 'sefyllfa bersonol' ei gyfnewid am 'safle yn yr aelwyd'
  4. Gwybodaeth arall a roddwyd yng nghyfrifiad 1831 :
    • Os oeddent yn gallu darllen neu ysgrifennu
    • Cyfraniad eu rôl yn y gymuned
    • Di-dreth
    • Natur gorchudd y tai
  5. Gwybodaeth arall a roddwyd yng nghyfrifiad 1841 :
    • Natur gorchudd y tai
  6. Gwybodaeth arall a roddwyd yng nghyfrifiad 1851 :
    • Crefydd
    • Anabledd a salwch
  7. 7.0 7.1 Gwybodaeth arall a roddwyd yng nghyfrifiadau 1872 ac 1876 :
    • Lle geni (ail-ymddangosodd yn 1901 hyd 1936).
  8. 8.0 8.1 Cyfrifiad 1896 ac 1901: Nid oedd "blwyddyn geni" yn bodoli. Yn ei le roedd "oed", a oedd wedi bodoli ers 1836 ac a ddaeth yn barhaol yn 1846.
  9. 9.0 9.1 Cyfrifiadau 1968 ac 1975: cafodd "blwyddyn geni" ei gyfnewid am "dyddiad geni"
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 10.4 10.5 10.6 10.7 Gwybodaeth arall a roddwyd yng nghyfrifiad 1901 ac 1936 :
    • Lle geni (a oedd wedi ymddangos eisioes yn 1872 ac 1876),
    • Sefyllfa gymdeithasol (rheolwr, gweithiwr neu cyflogedig, a dynodiad o pwy yw'r rheolwr uchaf).
  11. 11.0 11.1 11.2 Gwybodaeth arall a roddwyd yng nghyfrifiad 1962, 1968 ac 1975 :
    • Cyfeiriad yn y cyfrifiad diwethaf (ar gyfer 1962, y cyfeiriad ar 1 Ionawr 1956).
  12. Nodyn:Eicon Ffrangeg Code du Patrimoine, art. L213-2.