Cylch yr Arctig yw'r llinell sy'n dynodi ffîn yr Arctig. I'r gogledd o'r cylch yma, mae'r haul yn y golwg am 24 awr ar o leiaf un diwrnod yn yr haf, ac o'r golwg am 24 awr ar o leiaf un diwrnod yn y gaeaf.

Cylch yr Arctig
Mathpolar circle, rhanbarth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladNorwy, Sweden, y Ffindir, Rwsia, Unol Daleithiau America, Canada, Yr Ynys Las, Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Hyd15,984.36 cilometr Edit this on Wikidata

Y gwledydd sydd a thiriogaethau i'r gogledd o Gylch yr Arctig yw Norwy, Sweden, y Ffindir, Rwsia, yr Unol Daleithiau (Alaska), Canada, Denmarc (Yr Ynys Las) a Gwlad yr Ia (ynys Grímsey). Nid oes poblogaeth fawr i'r gogledd o Gylch yr Arctig. Y dinasoedd mwyaf yw Murmansk (poblogaeth 325,100), Norilsk (135,000), a Vorkuta (85,000), i gyd yn Rwsia, a Tromsø (Norway) gyda tua 62,000.

Cylch yr Arctig (glas)
Arwydd yn dynodi safle Cylch yr Arctig ar ynys Vikingen, Norwy