Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni

Sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni ar yr ail o Dachwedd, 1833, yn y Sun Inn yn Y Fenni, Sir Fynwy.

Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni
Enghraifft o'r canlynolcymdeithas, sefydliad Edit this on Wikidata
Isgwmni/auThe Welsh Manuscripts Society Edit this on Wikidata

Dewiswyd y swyddogion canlynol:

Llywydd - Y Parch John Evans ficer Llanofer
Is-Lywydd William Price, cyfreithiwr yn Y Fennni
Ysgrifennydd Thomas Bevan
Eraill - T. E. Watkins bardd, Eiddil Ifor

Amcan y gymdeithas oedd rhoi cyfle i'r aelodau gymdeithasu yn y Gymraeg ac i hybu'r Gymraeg. Ymhlith rheolau'r gymdeithas oedd rheol yn mynnu bod pob ymddiddan ac araith barhaol i fod yn y Gymraeg yn unig.

Yn fuan iawn daeth rhai o foneddigion yr ardal yn aelodau gan gynnwys Sir Charles Morgan, Tredegar a Mr a Mrs Benjamin Hall a mam Mrs Hall, Mrs Waddington, a Lady Coffin Greenly o Titley Court, Henffordd. Un arall a gafodd groeso mawr gan y gymdeithas oedd Y Parch Thomas Price neu fel yr adnabyddir ef hyd heddiw sef Carnhuanawc.

Sefydlwyd The Welsh Manuscripts Society yn 1836 gan aelodau o'r Cymreigyddion fel cymdeithas hynafiaethol gyda'r amcan o gyhoeddi llawysgrifau Cymreig. Cynhaliwyd Eisteddfodau'r Fenni gan y gymdeithas o 1834 i 1854.

Gweler hefyd golygu

     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato