Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Cymdeithas sy'n bodoli "i ddathlu, cydnabod, amddiffyn ac annog rhagoriaeth ym mhob un o'r disgyblaethau ysgolheigaidd" yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Saesneg: The Learned Society of Wales). Lansiwyd y gymdeithas ar 25 Mai 2010 yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Fe'i lleolir yng Nghaerdydd.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Enghraifft o'r canlynolcymdeithas ddysgedig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2010 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolAll European Academies Edit this on Wikidata
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.learnedsociety.wales/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae cymrodoriaeth y gymdeithas yn agored i rai sy’n byw yng Nghymru, a aned yng Nghymru neu sydd â chyswllt neilltuol â Chymru mewn rhyw fodd arall, sydd wedi "arddangos cofnod o ragoriaeth a chyrhaeddiadd" yn academia, neu a wnaeth gyfraniad disglair i ddysg yn eu maes proffesiynol. Mae gan Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru yr hawl i gyfeirio atynt eu hunain felly a defnyddio’r llythrennau FLSW ar ôl eu henw. Llywydd a Chadeirydd Cyngor cychwynnol y Gymdeithas oedd Syr John Cadogan.

Cymrodorion golygu

Mae gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru bumdeg wyth Cymrawd Cychwynnol, gyda phob un ohonynt yn ffigyrau amlwg o fewn eu disgyblaethau academaidd unigol. Y pumdeg wyth yw:

  • Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC PLSW FRS – Llywydd a Chadeirydd y Cyngor (m. 2020)[1]
  • yr Athro Barbara E. Adam, FLSW FAcSS
  • Yr Athro Sydney Anglo FSA FRHistS FLSW FBA
  • Yr Athro Catherine Sarah Barnard, FLSW FBA
  • Yr Athro Deirdre Beddoe FLSW
  • Yr Athro Huw Beynon DSocSc AcSS FLSW
  • Syr Leszek Borysiewicz KBE FRCP FRCPath FMedSci FLSW FRS
  • Yr Athro Richard Carwardine FRHistS FLSW FBA[2]
  • Yr Athro Thomas Charles-Edwards FRHistS FLSW FBA
  • Yr Athro Ian Clark FLSW FBA
  • Yr Athro Stuart Clark FRHistS FLSW FBA
  • Yr Athro Marc Clement FIEE FLSW
  • Yr Athro David Crystal OBE FLSW FBA
  • Syr Barry Cunliffe CBE FSA FLSW FBA
  • Yr Athro Martin Daunton LittD FRHistS FLSW FBA
  • Syr David Davies CBE DSc FREng FIET FLSW FRS
  • Yr Athro Wendy Davies OBE FSA FRHistS FLSW FBA
  • Yr Athro Robert Dodgshon FLSW FBA
  • Yr Athro Kenneth Dyson AcSS FRHistS FLSW FBA – Aelod y Cyngor
  • Yr Athro Dianne Edwards CBE ScD FRSE FLSW FRS – Is-Lywydd (Gwyddoniaeth, Tecnoleg a Meddygaeth) ac Aelod y Cyngor
  • Syr Sam Edwards FLSW FRS
  • Yr Athro Richard J Evans DLitt FRHistS FRSL FLSW FBA
  • Yr Athro Robert Evans FLSW FBA - Aelod y Cyngor
  • Yr Athro Roy Evans CBE FREng FICE FIStructE FLSW - Aelod y Cyngor
  • Yr Athro'r Farwnes (Ilora) Finlay o Landaf FRCP FRCGP FLSW - Aelod y Cyngor
  • Yr Athro Emeritws John Ffowcs Williams FREng FRSA FRAeS FInstP (m. 2020)
  • Yr Athro R. Geraint Gruffydd DLitt FLSW FBA
  • Y Fonesig Deirdre Hine DBE FFPHM FRCP FLSW
  • Yr Athro Christopher Hooley FLSW FRS (m. 2018)[3]
  • Syr John Houghton CBE FLSW FRS (m. 2020)[4]
  • Yr Athro Graham Hutchings DSc FIChemE FRSC FLSW FRS
  • Yr Athro Geraint H. Jenkins DLitt FLSW FBA - Aelod y Cyngor
  • Yr Athro Robert M. Jones DLitt FLSW FBA
  • Syr Roger Jones OBE FLSW – Trysorydd ac Aelod y Cyngor
  • Yr Athro Andrew Linklater AcSS FLSW FBA
  • Syr Ronald Mason KCB FRSC FIMMM FLSW FRS – Aelod y Cyngor
  • Yr Athro John McWhirter FREng FIMA FInstP FIEE FLSW FRS
  • Yr Athro Susan Mendus FLSW FBA - Aelod y Cyngor
  • Yr Athro Derec Llwyd Morgan DLitt FLSW - Aelod y Cyngor
  • Y Barwn (Kenneth O.) Morgan o Aberdyfi DLitt FRHistS FLSW FBA
  • Yr Athro Prys Morgan FRHistS FSA FLSW – Aelod y Cyngor
  • Yr Athro Michael O’Hara FRSE FLSW FRS
  • Yr Athro David Olive CBE FLSW FRS
  • Yr Athro John Wyn Owen CB FRGS FHSM FRSocMed FLSW - Aelod y Cyngor
  • Yr Athro Roger Owen FREng FLSW FRS
  • Yr Athro John Pearce FLSW FRS
  • Syr Keith Peters FMedSci FRCP FRCPE FRCPath FLSW FRS
  • Syr Dai Rees FRSC FRCPE FMedSci FIBiol FLSW FRS (m. 2021)[5]
  • Yr Athro Keith Robbins DLitt FRSE FRHistS FLSW - Aelod y Cyngor
  • Yr Athro Charles Stirling FRSC FLSW FRS
  • Yr Athro Helen Stokes-Lampard FRCGP FLSW
  • Yr Athro'r Fonesig Jean Thomas DBE CBE FMedSci FLSW FRS
  • Yr Athro Syr John Meurig Thomas DSc ScD FLSW FRS - Aelod y Cyngor
  • Syr Keith Thomas FRHistS FLSW FBA
  • Yr Athro M. Wynn Thomas OBE FLSW FBA – Is-Lywydd (y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol) ac Aelod y Cyngor
  • Yr Athro Steven Tipper AcSS FLSW FBA
  • Yr Athro John Tucker FBCS FLSW – Ysgrifennydd Cyffredinol ac Aelod y Cyngor
  • Yr Athro Kenneth Walters DSc FLSW FRS
  • Yr Athro Peter Wells CBE DSc FREng FMedSci FIET FInstP FLSW FRS
  • Yr Athro Alasdair Whittle FLSW FBA
  • Yr Athro Syr Dillwyn Williams FMedSci FRCP FRCPath FLSW
  • Yr Athro Robin Williams CBE FInstP FLSW FRS - Aelod y Cyngor
  • Y Parchedicaf a’r Gwir Anrh Dr Rowan Williams PC DD FRSL FLSW FBA

Cyfeiriadau golygu

  1. Rebecca Trager (19 Chwefror 2020). "Industry and academic chemistry titan John Cadogan dies". Chemistry World.
  2. "Richard Carwardine". University of Oxford. Cyrchwyd 4 Mawrth 2021.
  3. "Prof Christopher Hooley". The Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Ionawr 2022.
  4. Bob Henson (16 Ebrill 2020). "Sir John Houghton, Climate Scientist and Founding IPCC Editor, Dies at 88". The Weather Channel (yn Saesneg).
  5. Gregory Winter (25 Gorffennaf 2021). "Sir Dai Rees obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Ionawr 2022.

Dolenni allanol golygu