Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru / CLlLC (Saesneg: Welsh Local Government Association / WLGA) yw'r corff sy'n cynrychioli buddiannau awdurdodau lleol Cymru, sef y cyrff sy'n rhedeg siroedd, bwrdeistrefi sirol a dinasoedd Cymru, a hyrwyddo democratiaeth mewn llywodraeth leol yn y wlad. Mae 22 awdurdod lleol Cymru yn aelodau o'r Gymdeithas ac mae awdurdodau tân ac achub Cymru, pedwar awdurdod yr heddlu ac awdurdodau'r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt. Dydy Cymunedau Cymru ddim yn cael ei gynrychioli gan CLlLC ond yn hytrach gan Un Llais Cymru.[1]

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth lywodraethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1996 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Strwythur a gwaith golygu

Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu yn 1996 pan gyflwynwyd awdurdodau unedol newydd yng Nghymru. Cyn hynny roedd llywodraeth leol Cymru yn cael ei chynnwys yn ddiwahân gyda Lloegr (gweler Cymru a Lloegr). Ond mae CLlLC o hyd yn rhan o 'Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr' (Saesneg: Local Government Association neu'r LGA) fel aelod cyswllt am fod rhai materion llywodraeth leol yn dal i gael eu penderfynu yn San Steffan gan Llywodraeth y DU fel rhan o'r drefn sy'n cynnwys Cymru gyda Lloegr o fewn y DU. Does gan Loegr ddim gymdeithas lywodraeth leol iddi ei hun o fewn yr LGA[2]

Yn ôl CLlLC, ei phrif ddibenion yw "hyrwyddo safonau ac enw da maes llywodraeth leol a helpu'r awdurdodau i ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau i'r cyhoedd a democratiaeth".[3]

Prif gorff gweinyddol y Gymdeithas yw Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd gyda 79 o aelodau, gan gynnwys o leiaf 2 o bob awdurdod sy’n aelod. Mae’r cyngor yn cynnal cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.[4]

Aelodau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-02. Cyrchwyd 2009-05-26.
  2. .LGA Archifwyd 2009-06-09 yn y Peiriant Wayback.
  3. "CLlLC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-29. Cyrchwyd 2009-05-26.
  4. "CLlC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-01. Cyrchwyd 2009-05-26.

Dolenni allanol golygu

Gweler hefyd golygu