Cymry sydd â llinach hollol neu'n rhannol Eidalaidd yw'r Cymry Eidalaidd. Digwyddodd y mwyafrif o ymfudo o'r Eidal i Gymru yn y 19eg ganrif a dechrau'r 20g, ac ymgartrefodd y nifer fwyaf ohonynt yn Sir Forgannwg a Chasnewydd.[1]

Hanes yr ymfudo golygu

Daw nifer o fewnfudwyr Eidalaidd i Gymru o'r Apenninau, yn enwedig tref Bardi, a sefydlon nhw rhwydwaith o gaffis, parlyrau hufen iâ, a siopau pysgod a sglodion yng Nghymru o'r 1890au ymlaen.[2] Yn y Rhondda cafodd eu galw'n "Bracchis" ar ôl perchennog caffi o'r adeg gynnar o fewnfudo.[2] Aeth y brodyr Frank ac Aldo Berni, a ddechreuodd busnes ym Merthyr Tudful, ymlaen i sefylu'r gadwyn Berni Inn.[2]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, datganwyd bod Cymry Eidalaidd heb ddinasyddiaeth Brydeinig yn estroniaid gelyn a chafodd nifer eu caethiwo ar Ynys Manaw neu yng Nghanada. Bu farw 53 o Gymry Eidalaidd pan suddwyd yr Arandora Star ym 1940.[3]

Cymry Eidalaidd enwog golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Bardi - The Italian Connection Archifwyd 2011-10-05 yn y Peiriant Wayback.
  2. 2.0 2.1 2.2 Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (2008).
  3. (Saesneg) Service marks 70th anniversary of ship tragedy. BBC (2 Gorffennaf 2010).

Dolenni allanol golygu