Cynghrair Gwynedd

Cynghrair bêl-droed ar gyfer timau o hen sir Gwynedd yw Cynghrair Gwynedd. Mae'r gynghrair yn gyfystur â phumed lefel pyramid bêl-droed Cymru ac yn cael ei rhedeg gan Gymdeithas Bêl-droed Arfordir y Gogledd. Mae Cynghrair Gwynedd yn un o ddwy gynghrair sy'n bwydo Cynghrair Undebol y Gogledd ond ers diddymiad Cynghrair Caernarfon a'r Cylch a Chynghrair Dyffryn Conwy, Cynghrair Ynys Môn yw'r unig gynghrair sy'n bwydo Cynghrair Gwynedd.

Hanes golygu

Ffurfiwyd y gynghrair ym 1983 er mwyn pontio'r bwlch rhwng cynghreiriau lleol Ynys Môn, Caernarfon a'r cylch a Dyffryn Conwy a chynghrair Chynghrair Cymru (Y Gogledd). Cafodd Amaturiaid Llandudno, Benllech a'r Cylch, Bethesda, Conwy, Llanfairpwll, Porthmadog, Teigrod Porthaethwy ac Y Felinheli eu hethol yn aelodau cyntaf y gynghrair newydd, ond tynnodd Porthmadog yn ôl cyn dechrau'r tymor gyda Prifysgol Bangor yn cymryd eu lle[1].

Y Felinheli oedd y pencampwyr cyntaf gan ennill y gynghrair ar wahanaiaeth goliau gyda Llanfairpwll yn ail[2].

Cafwyd problemau denu timau i ymaelodi â'r Gynghrair yn yr ail dymor wedi i Teigrod Porthaethwy dynnu yn ôl oherwydd problemau ariannol ac wedi i'r Felinheli a Llanfairpwll ymaelodi â chynghrair newydd Cynghrair Undebol Arfordir y Gogledd. Penderfynnodd Prifysgol Bangor, Bethesda a Chonwy ymuno â'r Gynghrair Undebol hefyd ar ôl sylweddoli nad oedd digon o glybiau am ymuno â Chynghrair Gwynedd ar gyfer 1984-85, ond cafwyd chwaraewyd gemau rhwng y pum tîm er mwyn cadw enw'r gynghrair yn fyw[1].

Wedi seibiant o flwyddyn, atgyfodwyd y Gynghrair ar gyfer tymor 1986-87 gyda chlybiau Conwy, Coleg Normal, Harlech, Locomotive Llanberis, Llanerchymedd, Llanfairpwll, Llanrug, Machno a Phrifysgol Bangor[3].

Pencampwyr golygu

Tymor Pencampwyr Tymor Pencampwyr Tymor Pencampwyr Tymor Pencampwyr
1983-84 Y Felinheli 1993-94 Glantraeth 2003-04 Llanrwst 2013-14 Llanerchymedd
1984-85 Bethesda 1994-95 Ail dîm Porthmadog 2004-05 Ail dîm Porthmadog 2014-15 Llanllyfni
1985-86 Dim cystadleuaeth 1995-96 Ail dîm Conwy 2005-06 Pwllheli
1986-87 Locomotive Llanberis 1996-97 Hotspur Caergybi 2006-07 Bermo a Dyffryn
1987-88 Dyffryn Nantlle 1997-98 Amlwch 2007-08 Llanllyfni
1988-89 Llangefni 1998-99 Glan Conwy 2008-09 Amaturiaid Blaenau Ffestiniog
1989-90 Llangefni 1999-2000 Bethesda 2009-10 C.P.D Gwalchmai
1990-91 Llanrug 2000-01 Y Felinheli 2010-11 Bro Goronwy
1991-92 Nefyn 2001-02 Bodedern 2011-12 Penrhyndeudraeth
1992-93 Tref Caergybi 2002-03 Llanrug 2012-13 Bae Trearddur

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Gwynedd Football League History". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen marw]
  2. "Gwynedd League: 1983-84". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Gwynedd League: 1986-87". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)

Dolenni allanol golygu