Cyngor Bwrdeistref Llanelli

Roedd cyngor Bwrdeistref Llanelli yn awdurdod lleol yn rhan de Dyfed, Cymru a grëwyd yn 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, oedd y cyngor lleol a weinyddai rannau o Gwm Gwendraeth ac ardal drefol Llanelli.

Cyngor Bwrdeistref Llanelli
Daearyddiaeth
Pencadlys Tŷ Elwyn, Sgwâr Neuadd y Dref, Llanelli
Hanes
Tarddiad Deddf Llywodraeth Leol 1972
Crëwyd 1974
Diddymwyd 1996
Ailwampio Cyngor Sir Gar
Demograffeg
44,475 poblogaeth (cyfrifiad 2001)
Arfbais Cyngor Bwrdeistref Llanelli
Israniadau
Math Cymuned

Diddymwyd yr awdurdod yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996 pan ddaeth yr ardal dan weinyddiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin. Roedd hyn yn amhoblogaidd iawn gyda nifer o fewn y Cyngor ac ystyriodd y Prif Weithredwr, Mr. Bryn Parry-Jones, BA, MA (Oxon) geisio ffurfio Cyngor am ardaloedd Dyffryn Lliw, Abertawe ac ardal weinyddol Llanelli.

Arfais golygu

Arfbais Cyngor Bwrdeistref Llanelli
 
Nodiadau
Arfbais a roddwyd 21 Hydref 1913 i Bwrdeistref Ddinesig Llanelli. Bathodyn a roddwyd 22 Hydref 1913. Trosglwyddwyd drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor ym 1975.
Tarian
Per chevron Argent and Gules in chief two Lymphads Sable and in base a figure representing St. Elli of the first.
Escutcheon
Issuant from a Mural Crown proper two Dragons' Wings Gules each charged with a Fess chequy Or and Azure.
Arwyddair
YMLAEN LLANELLI[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Wales". Civic Heraldry of Wales. Cyrchwyd 24 May 2023.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato