Cyngor Iaith Norwy

Mae Cyngor Iaith Norwy (Norwyeg:Språkrådet)yn gorff cynghori ar ran Llywodraeth Norwy mewn materion yn ymwneud â'r Norwyeg a chynllunio ieithyddol. Sylfest Lomheim yw'r cyfarwyddwr presynol.

Cyngor Iaith Norwy
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth lywodraethol, rheoleiddiwr iaith Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2005 Edit this on Wikidata
RhagflaenyddQ61355436 Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadGweinyddiaeth diwylliant Norwy Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolorganisasjonsledd Edit this on Wikidata
PencadlysOslo Edit this on Wikidata
Enw brodorolSpråkrådet Edit this on Wikidata
GwladwriaethNorwy Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.sprakradet.no/ Edit this on Wikidata

Cyfrifoldeb y Cyngor iaith yw amddiffyn treftadaeth ddiwyllianol y Norwyeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig; ysgogi menterau sy'n cynyddu gwybodaeth o'r Norwyeg, ei hanes a'i hunigrywiaeth; ysgogi goddefgarwch ymysg defnyddwyr gwahanol ffurfiau o'r Norwyeg; ac amddiffyn hawliau dinasyddion parthed defnyddio'r Norwyeg.

Mae'r cyngor yn cynghori'r awdurdodau ynglŷn â materion sy'n gysylltiedig â'r Norwyeg, yn enwedig defnydd y Norwyeg gan ysgolion, gan Y Gorfforaeth Ddarlledu Norwyaidd a gan gyrff llywodraethol. Bydd yn cyflwyno ddatganiadau ynglŷn â chyfundrefnu'r iaith ysgrifenedig ac enwau lleoedd, cynnig mesurau cyfreithiol ar faterion ynghylch yr iaith Norwyeg, yn cynghori ac yn cynnig arweiniad i'r cyhoedd, ac yn hyrwyddo cydweithio rhyng-lychlynol er meithrin iaith.

Sefydlwyd y cyngor mewn deddf gan Gyngor Iaith Norwy yn 1972. Ei brif gyhoeddiad yw'r cylchgrawn chwarterol Språknytt (Newyddion Iaith). Mae gan y cyngor staff o tua ugain ac mae yn atebol i'r Weinyddiaith Norwyaidd ar gyfer diwylliant a materion eglwysig.