Sant Cymreig oedd Cynllo (fl. 5fed ganrif?). Yn ôl un traddodiad roedd yn fab i Far (neu 'Mor') ap Ceneu ap Coel Godebog (Coel Hen) o'r Hen Ogledd ac felly'n un o'r "Coeling", disgynyddion Coel, fel Llywarch Hen. Ond mae ffynonellau eraill yn ei wneud yn frawd i sant Teilo.

Cynllo
GanwydCeredigion Edit this on Wikidata
Bu farwCymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn, arweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Blodeuodd550 Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl8 Awst Edit this on Wikidata

Mae'r lleoedd a gysylltir â Chynllo yng Nghymru yn cynnwys dau bentref o'r enw Llangynllo (sef Llangynllo (Powys) a Llangynllo (Ceredigion)). Ym Mhowys ceir Pistyll Cynllo, ffynnon enwog ym mhlwyf Llanbister. Yn yr Oesoedd Canol, Cynllo oedd nawddsant cantref Maelienydd. Roedd yn nawddsant Rhaeadr Gwy (Cwmwd Deuddwr) yn ogystal, a Llangoedmor yng Ngheredigion hefyd.

Ni wyddys ddim am ei fywyd. Ceir cyfeiriad at 'Weddi Cynllo' mewn cerdd enwog a briodolir i'r bardd Taliesin, sef "Dyhuddiant Elffin".

Dethlir gwylmabsant Cynllo ar 8 Awst.

Ffynonellau golygu

  • T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000).
  • Patrick K. Ford (gol.), Ystoria Taliesin (Caerdydd, 1992)