Cynog Dafis

gwleidydd (1938- )

Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Cynog Glyndwr Dafis (ganwyd 1 Ebrill 1938). Enillodd etholaeth Sir Aberteifi a Gogledd Penfro (a ddaeth yn etholaeth Ceredigion yn 1997) i Blaid Cymru a'r Blaid Werdd ar y cyd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992.

Cynog Dafis
Cynog Dafis


Cyfnod yn y swydd
9 Ebrill 1992 – 10 Ionawr 2000
Rhagflaenydd Creuwyd yr etholaeth
Olynydd Simon Thomas

Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1999 – 1 Mai 2003
Olynydd Helen Mary Jones

Geni (1938-04-01) 1 Ebrill 1938 (86 oed)
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Tadogaethau
gwleidyddol
eraill
Y Blaid Werdd (DU)

Bu'n athro am 2 flynedd ym Mhontardawe yn dysgu Cymraeg a Saesneg cyn cael swydd pennaeth Saesneg yn Ysgol Uwchradd Emlyn ym Medi 1962

Yn 1999 daeth yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros etholaeth Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ymddiswyddodd fel aelod seneddol yn 2000, ac ymddeolodd o'r Cynulliad yn 2003.

Cydnabyddir ef fel un o brif ffurfwyr polisi Plaid Cymru yn ystod y cyfnod hwn.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Bywgraffiadau Cyngor » Cynog Dafis. Cartrefi Cymunedol Cymru.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Geraint Howells
Aelod Seneddol dros Ceredigion
19922000
Olynydd:
Simon Thomas
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Cynulliad dros Canolbarth a Gorllewin Cymru
19992003
Olynydd:
Helen Mary Jones