Cynthia Nixon

actores

Mae Cynthia Ellen Nixon (ganed 9 Ebrill 1966) yn actores Americanaidd sydd wedi ennill Gwobr Tony a dwy Wobr Emmy. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei phortread o'r cyfreithiwr Miranda Hobbs yn y gyfres deledu HBO a'r ffilm boblogaidd Sex and the City (1998-2004, 2008).

Cynthia Nixon
GanwydCynthia Ellen Nixon Edit this on Wikidata
9 Ebrill 1966 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Barnard
  • Coleg Hunter
  • PS 158
  • HB Studio Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor, actor llwyfan, bardd, slam poet Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr y 'Theatre World', Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, Gwobr Lucy, Gwobr Primetime Emmy i Actores Gefnogol Arbennig mewn Cyfres Gomedi, Gwobr Primetime Emmy am Actores Wadd Arbennig mewn Cyfres Ddrama Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://cynthiafornewyork.com Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ei Bywyd Cynnar a'i Gyrfa golygu

Ganwyd Nixon yn Ninas Efrog Newydd, Efrog Newydd yn ferch i'r actores Anne Kroll a newyddiadurwr radio, Walter Nixon. Ymddangosodd ar y sgrîn am y tro cyntaf fel twryllwraig ar To Tell the Truth, lle gweithiai ei mam. Dechreuodd actio pan oedd yn 12 oed ar The Seven Wishes of a Rich Kid, rhaglen ar ABC ym 1979. Perfformiodd mewn ffilm am y tro cyntaf yn Little Darlings (1980) gyda Kristy McNichol a Tatum O'Neal. Ymddangosodd ar Broadway am y tro cyntaf fel Dinah Lord yn ail-gread 1980 o The Philadelphia Story.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.