Cystadleuaeth Cân Eurovision

Cystadleuaeth flynyddol o ganu yw Cystadleuaeth Cân Eurovision.

logo'r Gystadleuaeth

Caiff gwledydd gweithredol yr Undeb Darlledu Ewropeaidd y cyfle i roi cân ymlaen a berfformir ar deledu byw. Mae'r gwledydd sy'n cystadlu hefyd yn pleidleisio dros eu hoff ganeuon a'r gân fuddugol yw'r un â'r nifer uchaf o bwyntiau ar ddiwedd y gystadleuaeth.

Cafodd y gystadleuaeth ei darlledu am y tro cyntaf ym 1956 fel ffordd o ddod â gwahanol gwledydd Ewrop at ei gilydd. Un o raglenni mwyaf poblogaidd y byd ydyw gan dros 600 miliwn o wylwyr dros y byd i gyd yn edrych ar y gystadleuaeth fawr.

Er bod y gystadleuaeth yn enwog am ganeuon pop, mae nifer fawr o fathau o gerddoriaeth wedi cynrychioli'r gwledydd sy'n cymryd rhan.

Yn y Deyrnas Gyfunol, y BBC sydd wedi darlledu'r gystadleuaeth ers y cychwyn, a'r darlledwr oedd yn arfer dewis y gân a'r artist i'w berfformio. Yn fwy diweddar, cynhelir cystadleuaeth deledu gan y BBC sydd yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ddewis enillydd o rhestr fer. Fel un o'r 5 aelod mwyaf sy'n ariannu'r UDE, mae cystadleuydd y DU yn cael eu derbyn yn syth i'r rownd derfynol. Mae gweddill y gwledydd yn gorfod cystadlu mewn 2 rownd gyn-derfynol.

Cystadleuwyr o Gymru golygu

Mae nifer o gantorion o Gymru wedi cystadlu dros y blynyddoedd:[1]

  • 1970 - Mary Hopkin - gyda'r gân "Knock, Knock Who's There?". Daeth yn ail agos, gyda Dana yn ennill y gystadleuaeth dros Iwerddon.
  • 1975 - Nicky Stevens fel rhan o'r grŵp Brotherhood of Man - gyda'r gân "Save All Your Kisses for Me". Enillodd y gân, yr unig amser i rywun o Gymru fod yn fuddugol.
  • 1990 - Emma Louise Booth - gyda'r gân "Give a Little Love Back to the World". Roedd y gantores o Ben-y-bont ar Ogwr yn 15 oed ar y pryd. Daeth yn y chweched safle.
  • 2002 - Jessica Garlick - gyda'r gân "Come Back". Daeth y gantores o Gydweli yn gydradd drydydd.
  • 2004 - James Fox - gyda'r gân "Hold on to our Love". Daeth yn safle 16 allan o 24.
  • 2013 - Bonnie Tyler - gyda'r gân "Believe in Me". Daeth yn safle 19 allan o 26.
  • 2016 - Joe Woolford fel rhan o'r ddeuawd Joe and Jake - gyda'r gân "You're Not Alone". Daeth yn safle 24 allan o 26.

Cyfeiriadau golygu

  1. Eurovision: How Welsh entrants scored before Bonnie Tyler , BBC News, 17 Mai 2013. Cyrchwyd ar 22 Mai 2021.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: