Cystadleuaeth Cân Eurovision 2008

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2008 oedd y 53ydd Cystadleuaeth Cân Eurovision, a gynhaliwyd yn Serbia. Cynhaliwyd y rowndiau cyn-derfynol ar yr 20fed a'r 22ain o Fai, gyda'r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar y 24ain o Fai 2008 yn y brifddinas Belgrade. Rwsia enillodd y gystadleuaeth, gyda chân Jim Beanz a Dima Bilan o'r enw "Believe" a berfformiwyd gan Bilan. Mae Arena Belgrade Arena, sef lleoliad y Gystadleuaeth, ymysg yr arenas dan-do fwyaf yn Ewrop, a gall ddal dros 20,000 o bobl. Enillodd Serbia'r hawl i gynnal y gystadleuaeth ar ôl i Marija Šerifović ennill y gystadleuaeth yn 2007 yn Helsinki, y Ffindir. Darlledwyd y digwyddiad gan RTS.

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2008
"Confluence of Sound"
("Cydlifiad Sain")
Dyddiad(au)
Rownd cyn-derfynol 120 Mai 2008
Rownd cyn-derfynol 222 Mai 2008
Rownd terfynol24 Mai 2008
Cynhyrchiad
CyflwynyddionJovana Janković
Željko Joksimović
Perfformiad agoriadolMae Marija Šerifović yn perfformio "Molitva" (remix) (Terfynol)

'Video killed a radio star' perfformiad (CD1)

'Serbia for beginners' â Aleksandar Josipović fel Master of Ceremonies (CD2)
Cystadleuwyr
Tynnu'n ôlBaner Awstria Awstria
Canlyniadau
◀2007   Cystadleuaeth Cân Eurovision   2009▶

Agorodd gwefan swyddogol cystadleuaeth 2008 ar y 15fed o Ionawr 2008. Am y tro cyntaf erioed, darlledodd Eurovision.tv y rowndiau terfynol cenedlaethol ar ESCTV gyda chaniatad y darlledwyr. Ar y 30ain o Ionawr, 2008, datgelodd Eurovision.tv thema'r Gystadleuaeth sef "Cydlifiad Sain", thema a ysbrydolwyd gan leoliad Belgrade ar gydlifiad yr afonydd Sava a'r Danube. Cyflwynwyd y sioe gan Jovana Janković a Željko Joksimović. Cynrychiolodd Jelena Tomašević Serbia gyda chân a gyfansoddwyd gan Joksimović; arweiniodd hyn at gryn dipyn o ddadlau ynglŷn â'r rôl yn y gystadleuaeth.

Fformat golygu

Ar 24ydd Ionawr 2008, tynnwyd enwau allan o het i weld pa wledydd a fyddai'n ymddangos yn y rownd gyn-derfynol cyntaf neu'r ail. Rhannwyd gwledydd i mewn i chwech pot yn unol a phatrymau pleidleisio cystadlaethau blaenorol. Yna, tynnwyd enwau allan o'r chwech pot i benderfynu pa wledydd fyddai yn y rownd gyn-derfynol gyntaf a phwy fyddai yn yr ail rownd gyn-derfynol. Penderfynwyd hefyd y bydda'r Almaen a Sbaen yn pleidleisio yn y rownd gyn-derfynol gyntaf, tra bod Ffrainc, Serbia a'r Deyrnas Unedig yn pleidleisio yn yr ail rownd gyn-derfynol.

Pot 1 Pot 2 Pot 3
Pot 4 Pot 5 Pot 6

Canlyniadau golygu

Y rownd cyn-derfynol gyntaf golygu

  • Digwyddodd y rownd cyn-derfynol gyntaf ym Melgrade ar y 20fed o Fai.
  • Aeth y naw gwlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau ar y ffôn i'r rownd derfynol ar yr 24ydd o Fai.
  • Penderfynodd y rheithgor ar y degfed gwlad i fynd trwyddo.
  • Pleidleisiodd Sbaen a'r Almaen yn y bleidlais hon.
  • Dengys y lliw peach pa wledydd aeth drwyddo i'r rownd derfynol.
  • Dengys y lliw mwstard y wlad a ddewiswyd gan y rheithgor i fynd drwyddo i'r rownd derfynol.
O'r het Gwlad Iaith Artist Cân Cyfieithiad Saesneg Safle Pwyntiau
01   Montenegro Montenegreg Stefan Filipović "Zauvijek volim te" I love you forever 14 23
02   Israel Hebraeg, Saesneg Boaz Ma'uda "The Fire in Your Eyes" - 5 104
03   Estonia Serbeg, Almaeneg, Ffineg Kreisiraadio "Leto svet" Summer light 18 8
04   Moldofa Saesneg Geta Burlacu "A Century of Love" - 12 36
05   San Marino Eidaleg Miodio "Complice" Accomplice 19 5
06   Gwlad Belg Iaith ddychmygol[1] Ishtar "O Julissi" - 17 16
07   Aserbaijan Saesneg Elnur a Samir "Day After Day" - 6 96
08   Slofenia Slofeneg Rebeka Dremelj "Vrag naj vzame" To hell with it 11 36
09   Norwy Saesneg Maria Haukaas Storeng "Hold On Be Strong" - 4 106
10   Gwlad Pwyl Saesneg Isis Gee "For Life" - 10 42
11   Iwerddon Saesneg Dustin the Turkey "Irelande Douze Pointe" Ireland, twelve points 15 22
12   Andorra Saesneg, Catalaneg Gisela "Casanova" - 16 22
13   Bosnia-Hertsegofina Bosnieg Laka "Pokušaj" Try 9 72
14   Armenia Saesneg, Armeneg Sirusho "Qélé, Qélé" (Քելե Քելե) Come on, come on 2 139
15   Yr Iseldiroedd Saesneg Hind "Your Heart Belongs to Me" - 13 27
16   Y Ffindir Ffineg Teräsbetoni "Missä miehet ratsastaa" Where men ride 8 79
17   Rwmania Rwmaneg, Eidaleg Nico and Vlad "Pe-o margine de lume" On an edge of the world 7 94
18   Rwsia Saesneg Dima Bilan "Believe" - 3 135
19   Gwlad Groeg Saesneg Kalomira "Secret Combination" - 1 156

Cyfeiriadau golygu