Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010 oedd y 55ain Cystadleuaeth Cân Eurovision. Fe'i cynhaliwyd rhwng 25 a 29 Mai 2010 yn Oslo, Norwy[2], Norwy. Thema'r gystadleuaeth oedd "Share The Moment" ("Rhannwch Y Foment" yn Gymraeg). Bu 39 gwlad yn cystadlu yn y gystadleuaeth. Dychwelodd Georgia i'r gystadleuaeth ar ôl blwyddyn o absenoldeb, ond ni chystadlodd Andorra, y Weriniaeth Tsiec, Hwngari na Montenegro.

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010
"Share The Moment"
("Rhannwch Y Foment")
Dyddiad(au)
Rownd cyn-derfynol 125 Mai 2010
Rownd cyn-derfynol 227 Mai 2010
Rownd terfynol29 Mai 2010
Cynhyrchiad
LleoliadArena Telenor, Bærum, Oslo, Norwy
CyflwynyddionErik Solbakken
Haddy N'jie
Nadia Hasnaoui[1]
Perfformiad agoriadolPerfformiodd Alexander Rybak "Fairytale"
Cystadleuwyr
Tynnu'n ôlBaner Andorra Andorra
Baner Gweriniaeth Tsiec Gweriniaeth Tsiec
Baner Hwngari Hwngari
Baner Montenegro Montenegro
Canlyniadau
◀2009   Cystadleuaeth Cân Eurovision   2011▶

Cyhoeddodd yr Undeb Ddarlledu Ewropeaidd (EBU) y byddai'n ceisio perswadio cwmnïau darlledu'r Eidal, Lwcsembwrg, Monaco ac Awstria i ddychwelyd yn 2010[3] ond ni bu'r trafodion hyn yn llwyddiannus am amryw o resymau. Erbyn 13 Mai 2009, roedd yr EBU wedi cadarnhau na allai Kazakhstan, Qatar a gwledydd tebyg gystadlu am eu bod yn disgyn y tu allan i'r Ardal Ddarlledu Ewropeaidd. Nid oedd gwledydd newydd posib yn gymwys[4] .

Man cyfarfod golygu

Ar 3 Gorffennaf 2009, penderfynodd cwmni darlledu Norwy, NRK, gynnal y gystadleuaeth yn y Fornebu Arena (a arferai gael ei alw'n Arena Telenor), Bærum, yn agos i ganol dinas Oslo.[5] Cyhoeddodd gweinidog diwylliant Norwy, Trond Giske, yn wreiddiol y byddai cyllideb o 17 miliwn (150 miliwn Kroner) yn cael ei gwario ar y gystadleuaeth, cyfanswm llai nag a wariwyd ar gystadleuaeth Moscow 2009 ond yn fwy na chystadleuaeth Helsinki 2007[6]. Ar 27 Mai amcangyfrifwyd mai 211 miliwn kroner (€24 miliwn) oedd gwir gost y gyngerdd.[7]

Dyluniad golygu

 
Logo cyntaf i gael ei gyhoeddi

Dangoswyd y thema a'r slogan gan NRK ar 4 Rhagfyr 2009 yn ystod y Gyfnewidfa Arwyddluniau Dinasoedd Cynhalwyr y gystadleuaeth rhwng meiri Moscow, Oslo a Bærum. Symboleiddiodd hyn ddechrau swyddogol tymor Cystadleuaeth Gân Eurovision 2010. Dewiswyd y thema, casgliad cylchau sydd yn croesi, i 'gynrychioli pobl yn dod at ei gilydd ac emosyinau amrywiol Cystadleuaeth Gân Eurovision'.[8] Cyhoeddwyd rhagolwg y llwyfan ar 6 Mai 2010. Doedd y llwyfan ddim yn defnyddio sgriniau LED ond roedd yn cynnwys technegau golau.[9]

Cyflwynwyr golygu

Roedd llawer o syniadau yn y wasg Norwyaidd am gyflwyr posib ar gyfer cystadleuaeth 2010. Crybwyllwyd enwau cyflwynwyr NRK Jon Almaas a Fredrick Skavlan, ac enillodd cyflwynwyr poblogaidd TV 2 Thomas Numme a Harald Rønneberg arolwg barn Dagbladet (papur newydd Norwyaidd) ar ei wefan.[10]

Cyhoeddodd NRK enwau'r cyflwynwyr ar 10 Mai 2010, sef Erik Solbakken, Haddy N'jie a Nadia Hasnaoui. Roedd Solbakken a N'jie i fod i agor y sioeau, cyflwyno'r artistiaid a rhoi adroddiadau o'r ystafell werdd. Rhan Hasnaoui oedd cyflwyno'r pleidleisiau a'r bwrdd sgôr. Dyma'r ail dro i'r Eurovision gael ei chyflwyno gan fwy na dau gyflwynydd ers Cystadleuaeth Cân Eurovision 1999.

Fformat golygu

Ar 7 Chwefror 2010 rhannwyd y gwledydd ym bum grŵp yn ôl patrymau pleidleisio yn y cystadlaethau blaenorol. Yna, tynnwyd enwau allan o'r pum pot i benderfynu pa wledydd fyddai'n cymryd rhan yn y rownd gyn-derfynol gyntaf a pa rai fyddai'n cael lle yn yr ail rownd gyn-derfynol. Penderfynwyd hefyd ym mha rownd gyn-derfynol y byddai'r Pedwar Mawr (Y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Sbaen a'r Almaen) a'r gwesteiwyr Norwy yn pleidleisio yn dilyn fformat 2009.

Pot 1 Pot 2 Pot 3 Pot 4 Pot 5

Canlyniadau golygu

Cadarnhaodd 39 gwlad eu bwriad i gymryd rhan yng nghystadleuaeth 2010.

Y Rownd Gyn-derfynol Gyntaf golygu

  • Cynhaliwyd y rownd gyn-derfynol gyntaf yn Oslo ar 25 Mai 2010.
  • Aeth y deg gwlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau i'r rownd derfynol.
  • Pleidleisiodd yr Almaen, Ffrainc a Sbaen yn y rownd gyn-derfynol hon.
  • Dengys y lliw peach pa wledydd aeth drwyddo i'r rownd derfynol.
O'r het Gwlad Iaith Artist Cân Cyfieithad Cymraeg Safle Pwyntiau
01   Moldofa Saesneg SunStroke Project ac Olia Tira "Run Away" Rhedeg i Ffwrdd 10 52
02   Rwsia Saesneg Peter Nalitch Band "Lost and Forgotten" Ar Goll ac Anghofiwyd 7 74
03   Estonia Saesneg Malcolm Lincoln a Manpower 4 "Siren" Seiren 14 39
04   Slofacia Slofaceg Kristina "Horehronie" 16 24
05   Y Ffindir Ffinneg Kuunkuiskaajat "Työlki ellää" Gallwch byw trwy gweithio, hefyd 11 49
06   Latfia Saesneg Aisha "What For?" Am Beth? 17 11
07   Serbia Serbeg Milan Stanković "Ovo je Balkan" (Oво je Балкан) Dyma'r Balcannau 5 79
08   Bosnia-Hertsegofina Saesneg Vukašin Brajić "Thunder and Lightning" Taran a Mellt 8 59
09   Gwlad Pwyl Saesneg, Pwyleg Marcin Mroziński "Legenda" Y Chwedl 13 44
10   Gwlad Belg Saesneg Tom Dice "Me and My Guitar" Fi a'm Gitâr 1 167
11   Malta Saesneg Thea Garrett "My Dream" Fy Mreuddwyd 12 45
12   Albania Saesneg Juliana Pasha "It's All About You" Mae'n Amdanoch Chi 6 76
13   Gwlad Groeg Groeg Giorgos Alkaios a Friends "OPA" (ΟΠΑ) 2 133
14   Portiwgal Portiwgaleg Filipa Azevedo "Há dias assim" Un o'r dyddiau hyn yw hyn 4 89
15   Gogledd Macedonia Macedoneg Gjoko Taneski "Jas ja imam silata" (Јас ја имам силата) Mae gennyf i'r cryfder 15 37
16   Belarws Saesneg 3+2 "Butterflies" Pili-palaod 9 59
17   Gwlad yr Iâ Saesneg, Ffrangeg Hera Björk "Je ne sais quoi" Dwn i ddim beth 3 123

Yr Ail Rownd Gyn-derfynol golygu

  • Cynhaliwyd yr ail rownd gyn-derfynol yn Oslo ar 27 Mai 2010.
  • Aeth y deg gwlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau i'r rownd derfynol.
  • Pleidleisiodd Y Deyrnas Unedig a Norwy yn y rownd gyn-derfynol hon.
  • Dengys y lliw peach pa wledydd aeth drwodd i'r rownd derfynol.
O'r het Gwlad Iaith Artist Cân Cyfieithad Cymraeg Safle Pwyntiau
01   Lithwania Saesneg InCulto "East European Funk" Ffync Dwyrain Ewrop 12 44
02   Armenia Saesneg Eva Rivas "Apricot Stone" Carreg Bricyllen 6 83
03   Israel Hebraeg Harel Skaat "Milim" (מילים) Geiriau 8 71
04   Denmarc Saesneg Chanée a N'evergreen "In a Moment Like This" Mewn Moment Fel Hyn 5 101
05   Y Swistir Ffrangeg Michael von der Heide "Il pleut de l'or" Mae hi'n glawio aur 17 2
06   Sweden Saesneg Anna Bergendahl "This Is My Life" Fy Mywyd yw Hwn 11 62
07   Aserbaijan Saesneg Safura Alizadeh "Drip Drop" 2 113
08   Wcráin Saesneg Alyosha "Sweet People" Pobl Melys 7 77
09   Yr Iseldiroedd Iseldireg Sieneke "Ik ben verliefd (Sha-la-lie)" Dwi mewn cariad (Sha-la-lie) 14 29
10   Rwmania Saesneg Paula Seling ac Ovi "Playing With Fire" Chwarae â tân 4 104
11   Slofenia Slofeneg Ansambel Roka Žlindre a Kalamari "Narodnozabavni rock" Roc gwerin poblogaidd 16 6
12   Iwerddon Saesneg Niamh Kavanagh "It's For You" I Di yw Hyn 9 67
13   Bwlgaria Bwlgareg Miro "Angel si ti" (Ангел си ти) Angel wyt ti 15 19
14   Cyprus Saesneg Jon Lilygreen a The Islanders "Life Looks Better in Spring" Mae Bywyd yn Ymddangos yn Well yn y Gwanwyn 10 67
15   Croatia Croateg Feminnem "Lako je sve" Hawdd yw popeth 13 33
16   Georgia Saesneg Sopho Nizharadze "Shine" Sgleiniwch 3 106
17   Twrci Saesneg maNga "We Could Be The Same" Gallem yr un 1 118

Y Rownd Derfynol golygu

  • Y "Pedwar Mawr" (Ffrainc, yr Almaen, Sbaen a'r Deyrnas Unedig).
  • Y wlad a oedd yn cynnal y gystadleuaeth, Norwy.
  • Yr ugain gwlad a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau ffôn a'r pleidleisiau'r rheithgorau yn y rowndiau cyn-derfynol.
  • Dewiswyd yr enillwr trwy gyfuniad o bleidleisiau ffôn a phleidleisiau rheithgorau proffesiynol.
  • Gallai'r gynulleidfa wedi pleidlesio'n ystod y perfformiadau a 15 munud ar ôl y perfformiadau hefyd.
  • Dengys y wlad a enillodd y gystadleuaeth mewn lliw peach.
O'r het Gwlad Iaith Artist Cân Cyfieithad Cymraeg Safle Pwyntiau
01   Aserbaijan Saesneg Safura Alizadeh "Drip Drop" 5 145
02[A]   Sbaen Sbaeneg Daniel Diges "Algo Pequeñito" Rhywbeth Bach 15 68
03   Norwy Saesneg Didrik Solli-Tangen "My Heart Is Yours" Mae Fy Nghalon yn Perthyn I Di 20 35
04   Moldofa Saesneg SunStroke Project ac Olia Tira "Run Away" Rhedeg i Ffwrdd 22 27
05   Cyprus Saesneg Jon Lilygreen a The Islanders "Life Looks Better in Spring" Mae Bywyd yn Ymddangos yn Well yn y Gwanwyn 21 27
06   Bosnia-Hertsegofina Saesneg Vukašin Brajić "Thunder and Lightning" Taran a Mellt 17 51
07   Gwlad Belg Saesneg Tom Dice "Me and My Guitar" Fi a'm Gitâr 6 143
08   Serbia Serbeg Milan Stanković "Ovo je Balkan" (Oво je Балкан) Dyma'r Balcannau 13 72
09   Belarws Saesneg 3+2 "Butterflies" Pili-palaod 24 18
10   Iwerddon Saesneg Niamh Kavanagh "It's For You" I Di yw Hyn 23 25
11   Gwlad Groeg Groeg Giorgos Alkaios a Friends "OPA" (ΟΠΑ) 8 140
12   Deyrnas Unedig Saesneg Josh Dubovie "That Sounds Good to Me" Mae Hynny'n Swio'n Dda I Mi 25 10
13   Georgia Saesneg Sopho Nizharadze "Shine" Sgleiniwch 9 136
14   Twrci Saesneg maNga "We Could Be The Same" Gallem yr un 2 170
15   Albania Saesneg Juliana Pasha "It's All About You" Mae'n Amdanoch Chi 16 62
16   Gwlad yr Iâ Saesneg, Ffrangeg Hera Björk "Je ne sais quoi" Dwn i ddim beth 19 41
17   Wcráin Saesneg Alyosha "Sweet People" Pobl Melys 10 108
18   Ffrainc Ffrangeg Jessy Matador "Allez Ola" 12 82
19   Rwmania Saesneg Paula Seling ac Ovi "Playing With Fire" Chwarae â tân 3 162
20   Rwsia Saesneg Peter Nalitch Band "Lost and Forgotten" Ar Goll ac Anghofiwyd 11 90
21   Armenia Saesneg Eva Rivas "Apricot Stone" Carreg Bricyllen 7 141
22   Yr Almaen Saesneg Lena "Satellite" Lloeren 1 246
23   Portiwgal Portiwgaleg Filipa Azevedo "Há dias assim" Un o'r dyddiau hyn yw hyn 18 43
24   Israel Hebraeg Harel Skaat "Milim" (מילים) Geiriau 14 71
25   Denmarc Saesneg Chanée a N'evergreen "In a Moment Like This" Mewn Moment Fel Hyn 4 149
  • A ^ Perfformiodd Sbaen ddwywaith (perfformiwyd eto ar ôl Denmarc) oherwydd i Jimmy Jump ddringo i'r llwyfan i gyd-ddawnsio gyda'r artistiaid yn ystod y perfformiad cyntaf.

Pleidleisio'n ystod y rownd derfynol golygu

Cyhoeddwyd pleidleisiau'r gwledydd yn y drefn canlynol:[11]

  1.   Rwmania
  2.   Iwerddon
  3.   Yr Almaen
  4.   Serbia
  5.   Albania
  6.   Twrci
  7.   Croatia
  8.   Gwlad Pwyl
  9.   Bosnia a Hercegovina
  10.   Y Ffindir
  11.   Slofenia
  12.   Estonia
  13.   Rwsia

  1.   Portiwgal
  2.   Aserbaijan
  3.   Gwlad Groeg
  4.   Gwlad yr Iâ
  5.   Denmarc
  6.   Ffrainc
  7.   Sbaen
  8.   Slofacia
  9.   Bwlgaria
  10.   Wcráin
  11.   Latfia
  12.   Malta
  13.   Norwy

  1.   Cyprus
  2.   Lithwania
  3.   Belarws
  4.   Y Swistir
  5.   Gwlad Belg
  6.   Deyrnas Unedig
  7.   Yr Iseldiroedd
  8.   Israel
  9.   Gogledd Macedonia
  10.   Moldofa
  11.   Georgia
  12.   Sweden
  13.   Armenia

Sylwebwyr golygu

Ciliadau golygu

Gwlad Nodiadau
  Andorra Mae darlledwr Andorra wedi cael cwtogiadau yn eu cyllidebau o tua 10%. O achos hyn, ni fydd Andorra yn cyfranogi.
  Awstria [12]
  Gweriniaeth Tsiec [13]
  Hwngari
  Liechtenstein Mae Liechtenstein yn ceisio ymuno â'r UDE a bydd y wlad yn cystadlu pan fydd hi'n aelod, mwy na thebyg yn 2011/2012. Mae hi'n barod i ddechrau cystadlu gyda chystadleuaeth cenedlaethol sy'n debyg i'r sioe Almaenaidd Deutschland sucht den Superstar.
  Lwcsembwrg [14]
  Monaco [15]
  Montenegro
  San Marino [16]

Darllediadau golygu

Gwlad Nodiadau
  Awstralia Ni all Awstralia'n gystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision ond bydd Special Broadcasting Service (SBS) yn darlledu'r gystadleuaeth.[17]
  Seland Newydd Ni all Seland Newydd gystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision ond bydd Triangle TV yn darlledu'r gystadleuaeth ar ei sianel lloeren STRATOS.

Cyfeiriadau golygu

  1. Nadia, Haddy and Erik to host 2010 Eurovision Song Contest
  2. "Eurovision Song Contest 2010 dates confirmed" Archifwyd 2009-05-29 yn y Peiriant Wayback., ESCToday.com, 2009-05-27. Adalwyd ar 2009-05-27.
  3. EBU working for Eurovision full house in 2010
  4. EBU and Eurovision.tv press-conference
  5. Breaking news: Fornebu Arena to host Oslo 2010
  6. "The ship sets sail". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-07. Cyrchwyd 2009-05-29.
  7. NRK estimates cost of Eurovision Song Contest at 24 mill. Euro
  8. Oslo 2010 theme revealed: Share The Moment
  9. NRK presents Eurovision stage to the press
  10. Hun eller han må se bra ut
  11. "Live: Draw of the running order". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-08. Cyrchwyd 2010-04-13.
  12. "Confirmed: Austria will not take part in 2010". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-23. Cyrchwyd 2009-10-02.
  13. "Czech Republic withdraws from Eurovision". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-23. Cyrchwyd 2009-07-23.
  14. "RTL suddenly decided; not going to Oslo". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-06. Cyrchwyd 2009-10-02.
  15. "TMC not coming back for 2010 Eurovision edition". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-06. Cyrchwyd 2009-10-02.
  16. News Eurovision Russia 2009
  17. SBS and Triangle Stratos tv Australia & New Zealand: Eurovision 2010 down under Archifwyd 2010-02-26 yn y Peiriant Wayback., ESCToday