Mae'n eithaf hawdd i feddwl am sytoplasm fel is-storfa anhrefnus, debyg i jeli. Y gwir yw bod y sytoplasm yn cynnwys nid yn unig yr organynnau a’r adeileddau ‘clasurol’ wedi’u hamgylchynu â philenni, ond hefyd y cytosgerbwd neu sytosgerbwd, sy’n cwmpasu’r rhain.

Y cytosgerbwd ewcaryotig.

Mae'r sytosgerbwd yn system sgaffaldwaith sytoplasmig, a chanddo briodweddau "cyhyrol" a phriodweddau "ysgerbydol" sy'n unigryw i gelloedd ewcaryotig. Ei brif gyfrifoldeb yw rhyngweithiad mecanyddol a gofodol celloedd o fewn eu hamgylchedd. Mae'r sytosgerbwd yn caniatáu i newidiadau adeileddol ddigwydd o fewn celloedd wrth iddynt dyfu, rhannu ac addasu i'r amgylchedd. Mae'n rhoi cryfder ac anhyblygedd i'r gell ac mae ganddo rôl sylfaenol o ran cynnal siap y gell drwy drefnu organynnau o fewn y cell. Mae hefyd yn galluogi celloedd i symud o le i le (sytocinesis) ac yn galluogi symudiad cydrannau mewngellol ac organynnau.

Prif gydrannau’r sytosgerbwd yw 3 math o system ffilamentau protein – microffilamentau (diamedr 4-7 nm – wedi’u hadeiladu o’r protein actin), ffilamentau rhyngol (diamedr tua 10 nm – wedi’u hadeiladu o un, neu fwy nag un, is-uned protein â siâp rhod) a microdiwbynnau (diamedr tua 24 nm – polymerau o’r protein twbwlin). Mae gan bob un broteinau cysylltiol penodol ac maent i gyd yn rhyngweithio â’i gilydd mewn amrywiol ffyrdd; maent hefyd yn rhannu priodweddau cyffredin.

Y sytosgerbwd sy’n gyfrifol am yr holl fathau o symudiad o fewn celloedd ac am synhwyro arwyddion o’r amgylchedd y tu allan i’r gell. Mae swyddogaethau eraill yn cynnwys:

  • Gwahanu cromosomau yn ystod mitosis (cellraniad) a rhannu’r gell fitotig wedyn.
  • Symudiad mewngellol defnyddiau ac organynnau o un rhan o’r gell i ran arall.
  • Cynnal pilen y gell, yn enwedig yn ystod newidiadau amgylcheddol, lle mae’r gell yn medru goddef gwahanol fathau o straen heb gael niwed.
  • Galluogi sberm i nofio, a galluogi celloedd megis ffibroblastau a chelloedd gwynion y gwaed i adlynu wrth arwynebeddau ac i ymledu drostynt.
  • Galluogi celloedd cyhyrau i gyfangu, a galluogi niwronau i ymestyn.
  • Cyfeirio twf cellfuriau planhigion, ac amrywiaethu siapiau celloedd mewn ewcaryotau.

Mae’r sytosgerbwd hefyd yn cael rhan mewn prosesau fel secretiad celloedd, trawsddygiad arwyddion, adlyniad celloedd, oncogenesis (datblygiad canser) ac apoptosis (marwolaeth raglenedig celloedd), ysgogiad lymffocytau, yr ymateb llidiol, rheolaeth cylchred y gell a rheolaeth twf.

Yn fyr, mae’r sytosgerbwd yn gyfrifol am holl briodweddau swyddogaethol celloedd byw. Mae ei gydrannau swyddogaethol yn gweithredu yn yr un ffordd ym mhob cell ewcaryotig. Gan hynny, y mae’r sytosgerbwd yn amlwg yn rhan hanfodol o bob cell fyw.

Cyfeiriadau golygu

  • Baas, P. W. 1996. The neuronal centrosome as a generator of microtubules for the axon. Curr. Topics Dev. Biol. 33: 281-298.
  • Desai, A., and T. J. Mitchison. 1997. Microtubule polymerisation dynamics. Annu. Rev. Cell Dev. Biol. 13: 83-117.
  • Fuchs, E., and K. Weber. 1994. Intermediate filaments: structure, dynamics, function and disease. Ann. Rev. Biochem. 63: 345-382.
  • Furukawa, R., and M. Fechheimer. 1997. The structure, function and assembly of actin filament bundles. Int. Rev. Cytol. 175: 29-90.
  • Hirokawa, N. 1998. Kinesin and dynein superfamily proteins and the mechanism of organelle transport. Science. 279: 519-526.
  • Maccioni, R. B., and V. Cambiazo. 1995. Role of microtubule-associated proteins in the control of microtubule assembly. Physiol. Rev. 75: 835-864.
  • Machesky, L. M., and M. Way. 1998. Actin branches out. Nature. 394: 125-126.
  • Parry, D. A. D., and P. M. Steinert. 1995. Intermediate filament structure. R. G. Landes.
  • Simmon, R. 1996. Molecular motors: single-molecule mechanics. Curr. Biol. 6: 392-394.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: