Duwies Geltaidd sy'n chwaer i Fath fab Mathonwy yn y traddodiad Cymreig yw Dôn. Ceir cyfeiriadau anuniongyrchol ati ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi ac weithiau yng ngwaith y beirdd Cymraeg canoloesol. Cyfeirir ati weithiau fel merch Beli, a restrir yn yr achau fel un o gyndeidiau pwysicaf Gwŷr y Gogledd.

Yn y Pedair Cainc mae Dôn yn fam i

Yn y chwedl gynnar Culhwch ac Olwen, enwir Dôn yn fam i Amaethon yn ogystal.

Ceir sawl cyfeiriad at Llys Dôn, er enghraifft mewn rhai o'r cerddi canoloesol a dadogir ar y bardd Taliesin (fel Taliesin Ben Beirdd). "Llys Dôn" hefyd yw'r enw traddodiadol ar cytser Cassiopeia.

Ar seiliau ieithyddol, uniaethir Dôn â'r dduwies Geltaidd Danu/Anu yn y traddodiad Gwyddelig. Yna mae hi'n fam i'r Tuatha Dé Danann chwedlonol.

Mae rhai ysgolheigion yn dadlau dros gysylltu Dôn/Danu ag enw afon Donaw (Danube, Lladin: Danuvius). Mae'n bosibl yn ogystal fod yr afonydd niferus a enwir yn afon Don, o Rwsia i Brydain, i'w cysylltu â'r dduwies hefyd. Tybir fod afon Dyfrdwy yn enghraifft arall (un o'r hen ffurfiau ar yr enw yw Dyfrddonwy).

Cyfeiriadau golygu

  • W.J. Gruffydd, Math fab Mathonwy (Caerdydd, 1928)
  • Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Stuttgart 1994: cyfieithiad Saesneg, Boydell Press, 1997)