Daeargi Gwyddelig

Daeargi sy'n tarddu o Iwerddon yw'r Daeargi Gwyddelig[1] (Gwyddeleg: Brocaire Gaelach) sydd yn un o'r bridiau hynaf o ddaeargwn. Defnyddiwyd y ci hwn i hela ac i nôl helfil, ac yn y Rhyfel Byd Cyntaf fel negesydd a gwyliedydd.[2]

Daeargi Gwyddelig
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Màs27 pwys, 25 pwys Edit this on Wikidata
Enw brodorolIrish Terrier Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae ganddo daldra o dua 46 cm (18 modfedd) ac yn pwyso 11 i 12 kg (25 i 27 o bwysau). Mae ei ben yn hir gyda barf fer, ac mae ganddo gôt wrychog o liw coch euraidd neu frowngoch. Mae'n gi ystwyth, ffyddlon, bywiog, ac yn ddifeddwl ddewr.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, terrier1 > Irish terrier.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Irish terrier. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Hydref 2014.


Oriel golygu